Theatr yr Adferiad

Oddi ar Wicipedia

Y corff o weithiau dramataidd Saesneg sydd yn dyddio o gyfnod yr Adferiad yn Lloegr yw theatr yr Adferiad. Mae'n ffurfio rhan o lên ehangach yr Adferiad. Digwyddodd yr Adferiad ei hun ym 1660, a châi diwedd cyfnod theatr y Adferiad ei ddyddio naill ai i'r Chwyldro Gogoneddus ym 1688, i derfyn y ganrif ym 1700,[1] neu i ddiwedd brenhinllin y Stiwartiaid ym 1716.

Wedi i Siarl II gael ei goroni yn 1660, gan adfer y frenhiniaeth yn Lloegr a dod â'r Werinlywodraeth i ben, llaciwyd ar y deddfau piwritanaidd yn erbyn mynegiant gwleidyddol a chrefyddol, ac roedd llenorion yn hawlio rhyddid creadigol unwaith eto ar ddychan a'r ddrama. Blodeuai oes o ffraethineb a gogan brathog yn llenyddiaeth Saesneg a barodd am ganrif gyfan, gyda chyfnod y ddrama Awgwstaidd yn dilyn theatr yr Adferiad.

Daeth y ddrama gomedi yn hynod o boblogaidd, yn enwedig y gomedi foesau, yn ogystal â dramâu arwrol dan ddylanwad newydd-glasuriaeth y theatr Ffrengig. Ymhlith y prif ddramodwyr gellir enwi George Etherege (1636–92), William Wycherley (1641–1716), Syr John Vanbrugh (1664–1726), a William Congreve (1670–1729). Dramodydd arall o nod ydy Aphra Behn (1614–89), o bosib y fenyw gyntaf yn hanes Ewrop i ennill ei thamaid drwy ysgrifennu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. J. P. Kenyon (gol.), The Wordsworth Dictionary of British History (Ware, Swydd Hertford: Wordsworth Editions, 1994), t. 300.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Fidelis Morgan, The Female Wits: Women Playwrights on the London Stage, 1660–1720 (Llundain: Virago, 1981).
  • Margaret Sherwood, Dryden's Dramatic Theory and Practice (Efrog Newydd: Haskell, 1965).
  • Montague Summers, Restoration Theatre (Efrog Newydd: Humanities Press, 1964).