George Chapman

Oddi ar Wicipedia
George Chapman
Ganwyd1559 Edit this on Wikidata
Swydd Hertford, Hitchin Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1634, 1634 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylWestern House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, ieithydd, bardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBussy D'Ambois Edit this on Wikidata

Bardd, dramodydd, a chyfieithydd o Sais oedd George Chapman (tua 155912 Mai 1634). Mae'n nodedig am ei gyfieithiad i'r Saesneg o'r Iliad a'r Odyseia gan Homeros.

Ganwyd yn Hitchin, Swydd Hertford, ac mae'n bosib iddo astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, er na derbyniodd radd. Erbyn 1585, yr oedd Chapman yn Llundain yn gweithio i Syr Ralph Sadler, ac mae'n debyg iddo deithio i'r Isel Wledydd yn y cyfnod hwn. Ymhlith ei weithiau cynnar mae'r cerddi The Shadow of Night . . . Two Poeticall Hymnes (1593), Ovids Banquet of Sence (1595), a De Guiana, Carmen Epicum (1596). Cyflawnodd ei gyfieithiad o'r Iliad yn 1611, a'r Odyseia yn 1616. Carcharwyd Chapman, Ben Jonson, a John Marston yn 1605 am iddynt ddigio'r Brenin Iago am eu portread o'r Albanwyr yn y ddrama Eastward Ho. Mae tua deuddeg o ddramâu gan Chapman yn goroesi, gan gynnwys y trasiedïau Bussy d’Ambois (1607), The Conspiracie, and Tragedie of Charles Duke of Byron (1608), a The Widdowes Teares (1612).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) George Chapman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Awst 2019.