Llên yr Adferiad
Enghraifft o'r canlynol | mudiad llenyddol, sub-set of literature |
---|---|
Rhan o | llenyddiaeth Saesneg |
Llên Lloegr yn yr 17eg ganrif |
---|
Y ddrama yn Oes Iago |
Piwritaniaid |
Athroniaeth a'r gwyddorau |
|
Y corff o ryddiaith, barddoniaeth, a drama a ysgrifennwyd yn yr iaith Saesneg yn Lloegr yn y cyfnod 1660–1700 yw llên yr Adferiad.[1] Wedi i Siarl II gael ei goroni yn 1660, gan adfer y frenhiniaeth yn Lloegr a dod â'r Werinlywodraeth i ben, llaciwyd ar y deddfau piwritanaidd yn erbyn mynegiant gwleidyddol a chrefyddol, ac roedd llenorion yn hawlio rhyddid creadigol unwaith eto ar ddychan a'r ddrama. Blodeuai oes o ffraethineb a gogan brathog yn llenyddiaeth Saesneg a barodd am ganrif gyfan. Gelwir dechrau'r cyfnod hwn yn llên Lloegr yn oes yr Adferiad.
Daeth y ddrama gomedi yn hynod o boblogaidd, yn enwedig y gomedi foesau, yn ogystal â dramâu arwrol dan ddylanwad newydd-glasuriaeth y theatr Ffrengig. Ymhlith y prif ddramodwyr gellir enwi George Etherege (1636–92), William Wycherley (1641–1716), Syr John Vanbrugh (1664–1726), a William Congreve (1670–1729). Canolbwyntiai beirdd y cyfnod hwn ar ymddygiad dynol a gwleidyddiaeth mewn arddull syml a chymedrol sy'n adlewyrchu'r heddwch a fu wedi'r rhyfeloedd cartref. Câi'r cyfnod ei gymharu â theyrnasiad Awgwstws Cesar a welai nifer o'r beirdd Rhufeinig gwychaf, ac am y rheswm hwnnw fe'i gelwir yn oes newydd-glasurol barddoniaeth Saesneg Lloegr. Datblygwyd arni'n gryf gan fudiad rhesymoliaeth a'i phwyslais ar drefn a chynildeb y dychymyg a gosod y ddynolryw a chymdeithas y bwnc testun yn hytrach na chrefydd a'r pethau duwiol. Llenor arall o nod ydy Aphra Behn (1614–89), dramodydd, bardd, a rhyddieithwraig ac o bosib y fenyw gyntaf yn hanes Ewrop i ennill ei thamaid drwy ysgrifennu.
Bardd pwysicaf yr oes newydd-glasurol, ac un o lenorion uchaf eu bri yn holl lên Loegr, yw John Milton (1608–74). Ystyrir ei gampwaith, Paradise Lost (Coll Gwynfa, 1667) yn arwrgerdd oreuaf yr iaith Saesneg modern, ac ynddi mae'r bardd yn cyfuno disgrifiadau byw a thraethiad hynod o ddramatig gydag arddull soniarus megis Spenser. Ysgrifennodd Milton hefyd ail arwrgerdd o'r enw Paradise Regained (1671), y ddrama farddonol Samson Agonistes (1671), a nifer o sonedau da. Er iddo gyfansoddi ei geinion yn oes yr Adferiad, Piwritan ac un o gefnogwyr achos Cromwell oedd Milton, ac mae'n rhai ystyried ei waith felly yn wahanol i ysbryd penrhydd y beirdd llysol a'r theatr gomig. Awdur duwiol arall oedd John Bunyan (1628–88), a ysgrifennodd yr alegori hir The Pilgrim's Progress (Taith y Pererin, 1678).
Er yn y theatr a'r nofel mae enghreifftiau amlycaf o lên ddigrif a dychanol yn ail hanner yr 17g, roedd hiwmor a gogan yn elfen bwysig o farddoniaeth y cyfnod hefyd. Nodai cychwyn yr oes ddychanol gan y gerdd "Hudibras", a gyhoeddwyd gan Samuel Butler (1613–80) mewn tair rhan (1663–78), sy'n gwatwar anghydffurfiaeth grefyddol a gwleidyddol Cromwell a'r Piwritaniaid. Mae'r gwaith hwnnw hefyd yn barodi o ddelfrydiaeth ramantaidd yr oesoedd cynt, yn enwedig "The Faerie Queene" gan Spenser. Bardd dychanol gwychaf y cyfnod, a'r cyntaf o'r newydd-glasurwyr, oedd John Dryden (1631–1700). Bardd achlysurol a dramodydd o fri oedd Dryden, a gafodd ei benodi'n Bardd Llawryfog cyntaf Lloegr. Cychwynnodd ar gyfnod dychanol ei yrfa pan gyfansoddai ffugarwrgerdd o'r enw "Mac Flecknoe" i wneud hwyl ar ben dramodydd arall. Ystyrir "Absalom and Achitophel" (1681) yn ei gampwaith, cerdd arabus o gwpledi arwrol sy'n adrodd hanes y Cynllwyn Pabaidd yn erbyn Siarl II. Fe gyfansoddodd hefyd sawl awdl, gan gynnwys "To Mrs Anne Killegrew" ac "Alexander's Feast".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ J. P. Kenyon (gol.), The Wordsworth Dictionary of British History (Ware, Swydd Hertford: Wordsworth Editions, 1994), t. 300.