Thomas Carew

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Carew
Thomas Carew.jpg
Ganwyd 1594 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Mawrth 1640 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr, Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Tad Matthew Carew Edit this on Wikidata

Bardd a llyswr o Sais oedd Thomas Carew (159522 Mawrth 1640) sy'n nodedig fel un o'r Cafaliriaid a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g.

Ganwyd yn West Wickham, Caint, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Merton, Rhydychen ac yn y Deml Ganol, un o Ysbytai'r Frawdlys. Aeth i'r cyfandir i weithio'n ysgrifennydd mewn llysgenadaethau Lloegr yn Fenis, yr Hâg, a Pharis. Dychwelodd i Loegr yn 1630 i fod yn was at ford y Brenin Siarl I. Roedd yn gyfaill i Ben Jonson a John Donne, a gwelir dylanwad y ddau lenor hwnnw ar farddoniaeth Carew.[1]

Fe'i ystyrir yn y cyntaf o'r beirdd Cafaliraidd, er iddo farw yn Llundain yn 1640, cyn i Ryfeloedd Cartref Lloegr rhwng y Brenhinwyr a'r Seneddwyr gychwyn o ddifrif. Yn ogystal â'i farddoniaeth serch llys sy'n nodweddiadol o'r traddodiad Cafaliraidd, gwelir dylanwad y Metaffisegwyr, yn bennaf Donne, yn ei waith ac hefyd Eidalwyr megis Giambattista Marino. Ei gwaith hiraf ydy'r gerdd erotig "Rapture". Ysgrifennodd hefyd fasc o'r enw Coelum Britannicum a berfformiwyd yn 1634, gyda cherddoriaeth gan Henry Lawes.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Thomas Carew. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Edward I. Selig, The Flourishing Wreath: A Study of Thomas Carew's Poetry (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1958).