Llenyddiaeth Saesneg Canol

Oddi ar Wicipedia

Y corff o lenyddiaeth a ysgrifennwyd yn Saesneg Canol, y ffurf ar yr iaith Saesneg a fodolai yn y cyfnod o'r 12g i'r 15g, yw llenyddiaeth Saesneg Canol. Cyfnod cymharol dawel yn hanes llenyddiaeth Saesneg oedd y 12g a'r 13g, a dim ond ychydig o lenyddiaeth Saesneg Canol sy'n goroesi o ganlyniad i oruchafiaeth y Normaniaid a statws Hen Ffrangeg, neu Eingl-Normaneg, fel iaith o fri. Fodd bynnag, llewyrchodd ysgrifennu yn yr amryw dafodieithoedd Saesneg yn y 14g. Y llenor blaenaf o'r oes hon yw Geoffrey Chaucer (tua 1343–1400), yr hwn sy'n un o feirdd gwychaf barddoniaeth Saesneg Lloegr a'i gampwaith The Canterbury Tales yn brif waith y cyfnod ac yn un o'r gweithiau pwysicaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg.[1] Cyfansoddai Chaucer ei farddoniaeth yn nhafodiaith Dwyrain Canolbarth Lloegr, a dderbyniwyd yn raddol yn ffurf safonol yr iaith lenyddol, er i'r gwahaniaethau hynod o ran orgraff ac ynganiad Saesneg barhau. Dygwyd arddull lenyddol newydd i'r amlwg gan waith Chaucer a John Wycliffe (tua 1328–1384), y dyn cyntaf i gyfieithu'r Beibl i'r Saesneg. Ymhlith prif lenorion eraill y 14g mae William Langland (tua 1332–tua 1386), awdur Piers Plowman; yr un a elwir "bardd Gawain", a briodolir iddo'r cerddi Perle, Patience, a Cleanness yn ogystal â'r campwaith Sir Gawain and the Green Knight; a John Gower (tua 1330–1408), a ysgrifennai yn Saesneg, Lladin, a Ffrangeg. Tua therfyn yr Oesoedd Canol yn Lloegr, cychwynnodd gwedd newydd ar lenyddiaeth o ganlyniad i ddyfeisio'r wasg argraffu. Un o'r llyfrau a gyhoeddwyd gan yr argraffwr arloesol o Sais, William Caxton (tua 1422–tua 1491), oedd y Le Morte d'Arthur, un o'r esiamplau gwychaf o'r rhamant sifalrig, gan Syr Thomas Malory (tua 1405–1471).

Barddoniaeth Saesneg Canol[golygu | golygu cod]

Datblygodd yr iaith Saesneg Canol o'r 12g, a cheir telynegion byrion o'r cyfnod hyn hyd at y 14g, nifer ohonynt yn ddi-enw. Cenir am natur, y gwanwyn, serch, a duwioldeb y Cristion. Roedd baledi byrion a phenillion straeon yn boblogaidd o'r 13g hyd at yr 17g.

Blodeuai'r rhamant Saesneg yn y 14g, a nodweddir gan straeon y marchog crwydr, canu serch llys, a themâu sifalri. Un o'r rhamantau enwocaf o'r cyfnod, sydd yn tynnu ar chwedlau Brythonaidd Cylch Arthur, yw Sir Gawayn and þe Grene Knyȝt.

Galargan yn debyg i farwnad y Cymry yw'r elegi, a ysgrifennir er cof am un fu farw a hefyd i fyfyru ar destun marwolaeth neu einioes. Enghraifft o'r fath gerdd yw Perle (tua 1360) a ysgrifennwyd o bosib i goffáu merch y bardd, o bosib yr un bardd a gyfansoddodd Sir Gawayn and þe Grene Knyȝt.

Yn yr oes hon hefyd fe flodeuai'r aralleg, ffurf lenyddol ddamhegol sydd yn trosi rhinweddau a chysyniadau tebyg yn gymeriadau a gwrthrychau eraill yn y stori. Traethiad alegorïaidd o hanes Cristnogaeth yw Piers Plowman (tua 1362), a briodolir i William Langland.

Portread o Geoffrey Chaucer.

Bardd rhagoraf y cyfnod, ac un o lenorion pwysicaf a gwychaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg, yw Geoffrey Chaucer. Yn ei gampwaith The Canterbury Tales, fe geir cylch o straeon difyr a adroddir gan griw o bererinion ar eu taith i Gaergaint. Darluniad dwfn a lliwgar ydyw o fywyd, iaith, digrifwch, a pherthnasau cymdeithasol yn Lloegr yr Oesoedd Canol. Ymhlith gweithiau eraill Chaucer mae'r stori serch Troilus and Criseyde a'r ddychangerdd ddamhegol Parlement of Foules.

Y ddrama[golygu | golygu cod]

Gwelai'r oes hon ddechreuad y ddrama Saesneg, ar ffurf dramâu moes, a ddatblygodd yn nechrau'r 15g, a chylchoedd o ddramâu dirgel, a fyddai'n boblogaidd o'r 13g hyd at yr 16g. Aralleg o'r rhinweddau a ffaeleddau yn brwydro dros yr enaid dynol ydy'r ddrama foes.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]