John Suckling

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Suckling
Sir John Suckling by Sir Anthony Van Dyck.jpg
Ganwyd 10 Chwefror 1609 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd 10 Chwefror 1609 Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Mehefin 1642, Mai 1642 Edit this on Wikidata (33 oed)
Achos: meddwdod Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth bardd, dramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Tad John Suckling Edit this on Wikidata
Mam Martha Cranfield Edit this on Wikidata

Bardd, dramodydd, milwr, a llyswr o Sais oedd Syr John Suckling (Chwefror 16091642) sy'n nodedig fel un o'r Cafaliriaid a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g.

Teulu ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd John Suckling yn Whitton, Middlesex, yn Chwefror 1609, yn fab i un o hen deuluoedd cefnog Norfolk. Roedd ei dad-cu yn ysgrifennydd i'r Brenin Iago I.[1] Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Aeth i Gray's Inn yn 1627, tua'r un pryd fe etifeddodd ystadau ei dad.[2] Teithiodd drwy gyfandir Ewrop yn ei ieuenctid.[1]

Y llyswr a'r milwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei urddo'n farchog yn 1630, ac aeth i'r cyfandir i ymladd yn y lluoedd gwirfoddol ar ochr Gustav II Adolff, brenin Sweden yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Dychwelodd i Loegr yn 1632.[1] Aeth i lys y Brenin Siarl I ac enillodd enw fel "galáwnt mwyaf ei oes", merchetwr, a gamblwr bowlio a chardiau. Yn draddodiadol, priodolir iddo ddyfeisio'r gêm cardiau cribej. Roedd yn wyrda'r siambr gyfrin i'r Brenin Siarl, ac yn gyfaill i'r beirdd Thomas Carew, Richard Lovelace, a Syr William Davenant.[2]

Pan ddechreuodd Rhyfeloedd yr Esgobion yn 1639, aeth Suckling â llu dan arweiniad y Brenin Siarl i frwydro'r Cyfamodwyr yn yr Alban. Yn sgil methiant yr ymgyrch, cafodd Suckling a'i filwyr eu gwatwar am eu gwisgoedd coegwych a'u galluoedd ymladd truenus. Suckling oedd un o'r cynllwynwyr a geisiant achub Thomas Wentworth, Iarll 1af Strafford o Dŵr Llundain yn 1641. Pan ddatgelwyd y cynllwyn, ffoes i Ffrainc, a chredir iddo farw yno ym Mharis trwy hunanladdiad yn 1642.[1][2]

Y llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodir Suckling am ei delynegion yn nhraddodiad "gwrth-blatonaidd" John Donne, sy'n trin canu serch arddunol a sentimentaliaeth yn ysgafn. Mae un o'i gerddi enwocaf, "Why so pale and wan, fond lover?", yn enghraifft o'r ceryddu sinigaidd a'r eironi sy'n bresennol yn ei waith. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ddychangerdd "A Session of the Poets" (1637, cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth yn 1646) a ysbrydolwyg gan yr Eidalwr Trajano Boccalini, ac "A Ballad Upon a Wedding" a gyfansoddwyd yn arddull a mesur y faled stryd.[2]

Yn ogystal â'i farddoniaeth, ysgrifennodd Suckling bedair drama. Ei gyntaf oedd y drasiedi Aglaura, a berfformiwyd yn 1637. Yn aml, ystyrir y gomedi The Goblins (1638) yn ei ddrama wychaf. Dychan am yr Albanwyr ydy Brennoralt, or the Discontented Colonel (1639), a gwaith anorffenedig yw The Sad One. Gwelir dylanwadau William Shakespeare, Francis Beaumont, a John Fletcher ym mhob un o'i ddramâu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Sir John Suckling", Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Sir John Suckling. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2019.