Llên Lloegr yn yr 16eg ganrif

Oddi ar Wicipedia

Dechrau llenyddiaeth Saesneg Modern oedd llên Lloegr yn yr 16eg ganrif, wedi i gyfnod llenyddiaeth Saesneg Canol ddod i ben yn niwedd y 15g. Erbyn yr 16g, gwelwyd dylanwadau cychwynnol y Dadeni Dysg a dyneiddiaeth y celfyddydau ar lenyddiaeth Saesneg Lloegr. Poblogaidd iawn oedd mesur y soned, a ddyfeisiwyd gan yr Eidalwyr. Serch oedd thema'r mwyafrif helaeth o sonedau'r Saeson, ac yn aml yn mynegi siom torri calon neu'r cariad nas dychwelir. Y Saeson cyntaf i sonedu yn eu mamiaith oedd Thomas Wyatt (1503–42) ac Henry Howard, Iarll Surrey (tua 1517–47), yr un a ddyfeisiodd y patrwm odli Saesneg ar y soned: tair adran o bedair llinell yr un, a chwpled i'w chloi. Howard hefyd oedd y cyntaf i gyfansoddi cerddi moel yn y Saesneg, hynny yw mesur cyson megis y pumban iambig ond yn ddiodl. Efelychai'r ffurf hon yn ddiweddarach yn y ganrif gan Philip Sidney (1554–86) yn ei gyfres o sonedau Astrophel and Stella.

Oes Elisabeth (1558–1603) oedd dechrau cyfnod y theatr wychaf yn hanes Lloegr, traddodiad sy'n cael ei gyfri ymhlith ceinion llên yr holl fyd. Dyma oedd oes y Dadeni Seisnig, a oedd yn hwyr i gyrraedd Lloegr o gymharu â'r Dadeni ar y cyfandir, a pharhaodd hyn trwy gydol Oes Iago yn nechrau'r 17g. Heb os nac oni bai, dramodydd pwysicaf yr 16g, a gaiff ei alw'n aml yn llenor goreuaf yr iaith Saesneg, oedd William Shakespeare (1564–1616). Ysgrifennodd Shakespeare tua hanner o'i holl ddramâu yn ystod degawd olaf yr 16g, gan gynnwys Romeo and Juliet (1595), A Midsummer Night's Dream (1595), The Merchant of Venice (1596–97), Henry V (1599), a Julius Caesar (1599). Dramodydd enwog arall oedd Christopher Marlowe (1564–93), sy'n nodedig am Doctor Faustus (1589–92) a The Jew of Malta (tua 1589). Bu dramodwyr rhagorol Oes Elisabeth hefyd yn cyfansoddi barddoniaeth delynegol a thraethiadol. Tynna Shakespeare ar y bardd Lladin Ofydd yn ei gerddi mytholegol Venus and Adonis a The Rape of Lucrece. Yn y 1590au fe gyfansoddodd gyfres o 154 o sonedau, a ystyrir ymhlith y goreuon o lenyddiaeth Oes Elisabeth. Adrodda Marlowe hefyd stori glasurol yn ei gerdd Hero and Leander. Bardd gwychaf Oes Elisabeth oedd Edmund Spenser (1552/3–99), a ysgrifennodd gwaith epig, damhegol o'r enw The Faerie Queene (1590) a rennir yn chwe llyfr sy'n ymwneud â'r rhinweddau llys. Dyrchefir rhamant yr oes yn y gerdd hon wrth i'r bardd canu clod y Frenhines Elisabeth a mynegi eglwyseg y Sefydlogiad Protestannaidd.

Dyma hefyd gyfnod o lên boblogaidd yn iaith y werin a anelid at boblogaeth lythrennog y dinasoedd: llenyddiaeth dihirod, llyfrau ffraethebion, llyfrynnau sieb, pamffledi ar bynciau gwleidyddol a chrefyddol. Rhoddid yr enw Ffraethebwyr y Prifysgolion ar griw o ddramodwyr a rhyddieithwyr arabus a oedd yn gyn-fyfyrwyr prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, yn eu plith Marlowe, Robert Greene (1558–92), Thomas Nashe (1567–1601), a John Lyly (tua 1554–1606).

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Casgliadau a blodeugerddi[golygu | golygu cod]

  • Gerald Bullett (gol.), Silver Poets of the Sixteenth Century: Thomas Wyatt, Henry Howard Earl of Surrey, Sir Philip Sidney, Sir Walter Raleigh, Sir John Davies (Llundain: J. M. Dent, 1947).
  • Emrys Jones (gol.), The New Oxford Book of Sixteenth-Century Verse (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991).

Astudiaethau a beirniadaeth[golygu | golygu cod]

  • Ruth Ahnert, The Rise of Prison Literature in the Sixteenth Century (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2013).
  • Elizabeth Heale, Wyatt, Surrey and Early Tudor Poetry (Llundain: Longman, 1998).
  • C. S. Lewis, English Literature in the Sixteenth Century (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1954).
  • Neil Rhodes, Common: The Development of Literary Culture in Sixteenth-Century England (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2018).