Llyfr ffraethebion
Casgliad o straeon doniol, cellweiriau, a chysetiau yw llyfr ffraethebion.[1] Roedd y ffurf lenyddol hon yn boblogaidd yn Lloegr yr 16g a'r 17g. Cafodd y llyfrau hyn eu priodoli i lenorion arabus megis John Skelton a George Peele neu groesaniaid a digrifwyr enwog megis John Scoggin a Robert Armin. Mae traddodiad y llyfr ffraethebion yn perthyn i'r ddihareb a'r wireb, ac i lenyddiaeth dihirod.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [jest: jest-book].
- ↑ Birch, Dinah (gol.) The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 532.