Henry Howard, Iarll Surrey

Oddi ar Wicipedia
Henry Howard, Iarll Surrey
Ganwyd1516 Edit this on Wikidata
Swydd Hertford Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1547 Edit this on Wikidata
Tower Hill Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, gwleidydd, pendefig Edit this on Wikidata
TadThomas Howard Edit this on Wikidata
MamElizabeth Howard Edit this on Wikidata
PriodFrances Howard Edit this on Wikidata
PlantJane Neville, Thomas Howard, 4ydd Dug Norfolk, Lady Katherine Howard, Henry Howard, Lady Margaret Howard Edit this on Wikidata
LlinachHoward family Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata

Bardd o Sais oedd Henry Howard, Iarll Surrey (151713 Ionawr 1547).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Hunsdon, Swydd Hertford, yn fab i'r Arglwydd Thomas Howard. Pryd ddaeth ei dad yn Ddug Norfolk yn 1524, derbyniodd Henry y teitl cwrteisi Iarll Surrey. Bu'n byw yn Windsor o 1530 i 1532 gyda Henry FitzRoy, mab anghyfreithlon y Brenin Harri VIII a'i ordderch Elizabeth Blount, a oedd dan warchodaeth Thomas Howard. Yn 1532 priododd Henry â'r Foneddiges Frances de Vere (tua 1517–77), merch John de Vere, 15fed Iarll Rhydychen, er na chydbreswyliasent nes 1535. [1]

Gwasanaethodd yn filwr yn erbyn yr Albanwyr yn 1542 ac yn erbyn y Ffrancod. Fe'i penodwyd yn Llywodraethwr Boulogne yn 1545. Yn Rhagfyr 1546 cafodd ei garcharu ar gyhuddiad o chwarteru arfbais Edward Gyffeswr. Cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddedfrydu i'r gosb eithaf. Cafodd ei dorfynyglu ym Mryn y Tŵr, Llundain, ar 13 Ionawr 1547, yn 30 oed. Yn ôl pob sôn, efe oedd yr unigolyn olaf i'w ddienyddio yn ystod teyrnasiad y Brenin Harri.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Howard a'i gyfaill Thomas Wyatt oedd y Saeson cyntaf i sonedu yn eu mamiaith, dan ddylanwad y soned Betrarchaidd. Dyfeisiodd y patrwm odli Saesneg ar y soned: tair adran o bedair llinell yr un, a chwpled i'w chloi. Howard hefyd oedd y cyntaf i gyfansoddi cerddi moel yn y Saesneg, hynny yw mesur cyson megis y pumban iambig ond yn ddiodl. Cyfieithodd ddau o lyfrau'r Aenid gan Fyrsil ar fesur moel, a gyhoeddwyd dan y teitl Certain Bokes of Virgiles Aenaeis yn 1557.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Henry Howard, Earl of Surrey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2019.