Soned
Darn o farddoniaeth delynegol bedair llinell ar ddeg yw soned. Ceir amrywiaethau o ran y cerddi a ddisgrifir fel sonedau, ond yn gyffredinol maent yn rhannu'r patrwm o ddeg sill i bob llinell ar ryw batrwm odl rheolaidd, ac fe rennir y llinellau yn 'wythawd' a 'chwechawd' gyda newidiad neu droad ar ôl yr wythfed llinell.
Amrywiaethau
[golygu | golygu cod]Mae nifer wahanol amrywiaethau penodol o soned; dau o'r mwyaf cyffredin yw'r soned Petrarchaidd neu Eidalaidd a'r soned Shakesperaidd.
Cynllun odlau y soned Eidalaidd yw
- abba, abba, c ch d, c ch d[1]
ac i'r soned Shakesperaidd ceir y patrwm odl
- a b a b, c ch c ch, d dd d dd, e e.[2]
Yn ôl enwau'r beirdd enwog hyn yr enwir y ddwy ffurf gyffredin yma ar y Soned ac maent wedi'u cysylltu'n gryf y naill a'r llall gyda'r ddau fardd; fodd bynnag nid Petrarch ddyfeisiodd y soned Petrarchaidd (roedd wedi'i defnyddio eisoes gan Dante ac nid Shakespeare ddyfeisioedd y soned Shakespearaidd chwaith (oedd wedi'i defnyddio gan ragflaenwyr iddo ef megis Thomas Wyatt.
Hanes
[golygu | golygu cod]Priodolir y sonedau cynharaf i'r bardd Sisilaidd Giacomo da Lentini ac maen debyg mai yn yr Iaith Sisileg y cyfansoddwyd hwy, er mai dim ond fel cyfieithiadau i'r Eidaleg maent wedi goroesi.
Lledaenodd y Soned o Sisili i weddill yr Eidal ac roedd yn boblogaidd iawn yn nwylo beirdd canoloesol fel Petrarch, a roddodd ei enw i'r ffurf 'Petrarchaidd' ar soned, er nad ef a'i dyfeisiodd.
Y Soned Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg mai yn 1833 y cyfansoddwyd y soned Gymraeg gyntaf, gan fardd anadnabyddus 'R.G.W.'.[3] Cyfansoddwyd ambell soned arall yn ystod y 19g gan feirdd Cymraeg megis Gwenffrwd ac Iorwerth Glan Aled, a chyfieithwyd rhai sonedau Saesneg i'r Gymraeg, ond yn gyffredinol cysylltir y soned Gymraeg â'r 20g. Ymddangosodd rai ohonynt gan W. J. Gruffydd ac R. Silyn Roberts yn eu cyfrol Telynegion (1900) a cafwyd sonedau gan feirdd adnabyddus eraill megis T. Gwynn Jones; fodd bynnag gydag enwau R. Williams Parry a T. H. Parry-Williams y cysylltir y soned Gymraeg yn bennaf oll, gyda sonedau fel 'Mae Hiraeth yn y Môr' ac 'Y Llwynog' ymhlith cerddi mwyaf adnabyddus R. Williams Parry, a Parry-Williams yn awdur nifer fawr o sonedau enwog fel 'Moelni', 'Tŷ'r Ysgol', 'Llyn y Gadair', 'Dychwelyd' ac eraill. Bu cystadleuaeth am Soned yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1906.[4]
Ymhlith y beirdd Cymraeg a gyfansoddodd nifer sylweddol o sonedau mae Prosser Rhys, Rhydwen Williams, Iorwerth C. Peate ac Alan Llwyd. Roedd y Soned Gymraeg ar ei hanterth rhwng yr 1920au a'r 1960au. Erbyn iddo lunio Y Flodeugerdd Sonedau yn 1980 fodd bynnag, nododd Alan Llwyd bod y mesur bellach yn llawer llai cyffredin nag y bu.[5]
Ysytyrir y soned yn fesur rhydd yn Gymraeg fel arfer. Fodd bynnag, mae rhai beirdd megis T. Gwynn Jones wedi cyfansoddi sonedau ar gynghanedd.[4]
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Cousins, A. D. a Howarth, Peter (gol.). The Cambridge Companion to the Sonnet (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2011).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Encyclopeadia Britannica
- ↑ Encyclopaedia Britannica
- ↑ Alan Llwyd (gol.) 1980 Y Flodeugerdd Sonedau, Abertawe: Christopher Davies. t.10
- ↑ 4.0 4.1 Alan Llwyd (gol.) 1980 Y Flodeugerdd Sonedau, Abertawe: Christopher Davies. t.11
- ↑ Alan Llwyd (gol.) 1980 Y Flodeugerdd Sonedau, Abertawe: Christopher Davies. t.22
