Y Llwynog

Oddi ar Wicipedia

Soned Gymraeg gan R. Williams Parry yw Y Llwynog. Mae'n enwog iawn, yn enwedig y diweddglo: "Digwyddodd, darfu, megis seren wib."

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Yn y gerdd hon gwelwn y bardd yn cerdded ar hyd y mynydd ar Ddydd Sul braf ym mis Gorffennaf gyda dau o'i gyfeillion. Mae'n teimlo ychydig yn euog am beidio mynd i'r eglwys gan ei fod yn clywed y clychau yn "gwahodd tua'r llan". Ond mae gwahoddiad yr haul wedi ennill ac i'r mynydd am dro mae'n mynd. Maent bron â chyrraedd y copa pan welant lwynog yn llwybreiddio o'u blaenau heb sylwi arnynt. Mae'r tri cyfaill wedi synnu gweld y llwynog allan yng ngolau dydd, "rhyfeddod prin" yw ei weld ac mae'r profiad fel petai wedi dwyn eu hanadl. Mae'r tri yn sefyll yn hollol lonydd fel petaent wedi cael eu parlysu. Wrth iddynt syllu ar y llwynog fel delwau mae ef yn stopio ac yn sylwi arnyn nhw. Mae'r llwynog hefyd wedi ei syfrdanu ac mae fflam ei lygaid yn syllu arnynt. Yna mae'n diflannu dros ochr y mynydd yr un mor sydyn ag yr ymddangosodd: "Digwyddodd, darfu, megis seren wib."

Mesur[golygu | golygu cod]

Soned Shakesperaidd yw mesur y gerdd hon, a chanddi 14 llinell wedi eu rhannu'n ddwy ran, yr wythawd (yr wyth llinell gyntaf) a'r chwechawd (y chwe llinell olaf). Deg sill sydd i bob llinell fel arfer. Rhwng yr wythawd a'r chwechawd mae volta, neu dro yn y soned, sydd yn nodi newid yn agwedd y bardd neu'r ffordd y mae'r gerdd yn datblygu. O ran y patrwm odli, mae gan y gerdd dri phennill o bedair llinell yr un gyda chwpled cloi: ABAB CChCCh DDdDDd EE.

Arddull a thechnegau[golygu | golygu cod]

Mae'r gerdd yn cynnwys berfau effeithiol—"llwybreiddiodd", "barlyswyd", "lithrodd", "digwyddodd", "darfu"—sydd yn disgrifio symudiadau'r tri a'r llwynog fel ein bod yn medru gweld y digwyddiadau yn ein meddwl. Mae'r berfau hefyd yn pwysleisio breuder y sefyllfa, yn enwedig "digwyddodd, darfu" yn y llinell glo. Yn yr 11eg linell mae enghraifft o drosiad, sef disgrifiad o lygaid y llwynog yn "dwy sefydlog fflam", eu siâp yn debyg i fflamau ac yn fflachio arnynt fel fflamau. Rydym yn disgwyl i fflamau symud, ond nid yw'r rhain yn symud o gwbl, maent yn sefydlog. Dwy gyffelybiaeth sydd yn y gerdd: "megis trindod faen", sydd yn cymharu'r tri i gerfluniau carreg gan nad ydynt yn medru symud o gwbl oherwydd eu sioc, a "megis seren wib" yn y llinell olaf enwog. Yn yr un modd â'r berfau, mae'r llinell glo yn pwysleisio breuder y sefyllfa: mae seren wib llawn ysblander, a'r profiad o'i gweld mor rhyfeddol ac mor brin ag yw llwynog. Ychwanega'r ansoddeiriau hefyd at ysblander y foment prin: "anhreuliedig", "gwych", "oediog", "sefydlog", "cringoch". Mae'r gerdd hefyd yn cynnwys sawl enghraifft o gyflythrennu: "haul Gorffennaf gwych", "Ar ddiarwybod droed a distaw duth", "syfrdan y safodd yntau".

Neges y bardd[golygu | golygu cod]

Gallwn ddadlau bod R. Williams Parry yn creu darlun o freuder profiad y funud.

"Digwyddodd, darfu, megis seren wib"

Rhywbeth dros dro yw profiadau dyn ar ddaear a'r pleser yw mwynhau rhyfeddod y foment.

"Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o'm blaen"

Yn yr un modd mae'n bosibl ei fod yn awgrymu mai bodau dros dro ydyn ni ar y ddaear hon. Dywed hefyd mai rhai o'r profiadau mwyaf byrhoedlog yn aml yw y rhai cofiadwy, arbennig a gwerthfawr.

Pam defnyddio Soned?[golygu | golygu cod]

Gwaith soned yw cyfleu neges mewn modd rhyddmig a thrwy hynnu'n trosglwyddo rhyw brofiad arbennig i'r gwrandawr. Yn y bedair llinell ar ddeg rhaid i'r bardd reoli ei hun i gynnwys dim ond y geiriau sy'n haeddu eu lle ac yn ychwanegu at y profiad. Yn hanesyddol hefyd disgwylir i'r soned gyrraedd uchafbwynt yn y gwpled clo yn ogystal â datblygiad yn ail hanner y gerdd. Gwneir hyn yn gampus gan R. Williams Parry yn y gerdd hon wrth sôn am brofiad a gafodd gyda'i ffrindiau un "gorffennaf gwych".

Mae'n gerdd berthnasol i'n hoes ni heddiw gan ei bod yn dangos prydferthwch byd natur ac yn dangos anifail yn ei gynefin naturiol. Mae'r gerdd yn ein annog ni i werthfawrogi byd natur a phrofiadau heddiw.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]