Cymhariaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cyffelybiaeth)
Ceir math o gymhariaethu a delweddu mewn lluniau swreal yn aml iawn. Dyma lun gan Paul Eluard.

Cymharu rhywbeth gyda rhywbeth arall yw cymhariaeth neu cyffelybiaeth. Yn aml y mae'r gymhariaeth gyda rhywbeth annisgwyl ond yn effeithiol oherwydd hynny. Mae cymhariaeth yn debyg iawn i'r ddelwedd.

Giuseppe Arcimboldo: Le bibliothécaire (1570).

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Defnyddio "fel"[golygu | golygu cod]

Yn wan fel brwynen - am berson fel arfer.
Yn gwaedu fel mochyn - am glwyf sy'n colli gwaed.
Yn wyn fel y galchen.
Yn araf fel malwen.

Defnyddio "megis"[golygu | golygu cod]

"Y glaw oedd megis caniau Coke yn rhowlio ar lawr pren.

Defnyddio "tebyg"[golygu | golygu cod]

Tebyg yw dy lais i grawcian brân.
Rwyt ti'n debyg i ful.

Defnyddio "cymharu"[golygu | golygu cod]

Cymharaf di i lyffant melyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.