Delwedd
Gwedd
Llun 2-ddimensiwn, fel arfer, ydy Delwedd sy'n ceisio edrych yn debyg i ryw wrthrych neu'i gilydd. Y lluosog ydy 'delweddau'. ('Image' yn Saesneg.) Enghraifft o ddelwedd ydy'r ffotograff neu ffurf ar sgrîn teledu neu gyfrifiadur ond gall hefyd olygu ffurf 3-dimensiwn megis cerflun. Un o eiriau wedi'u bathu gan William Owen Pughe ydy 'delwedd' a hynny yn 1794.
Weithiau, mae'r ddelwedd yn cael ei 'ddal' neu ei 'gymryd' gan gyfarpar optig megis y camera, drych, lens, telesgop, meicrosgop, wyneb dŵr ac wrth gwrs y gorau ohonynt i gyd: y llygad dynol.
Mae'r gair hefyd yn golygu trosiad neu gyffelybiaeth.