Camera

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Camera Olympus E-420 DSLR gyda lens crempog 25mm.
Delwedd:Filmmagazin.JPG
Camera Ciné-Kodak Special II - 16mm (ca. 1948)

Mae camera yn cael ei ddefnyddio i gofnodi lluniau neu ddelweddau ac yn ddibynol, fel arfer, ar olau. Gall y lluniau hyn fod yn statig neu yn symudol, fel fideo, a chael eu cynhyrchu ar ffilm, ar negydd, ar bapur neu mewn fformat digidol. Gall hefyd gael ei drosglwyddo i gyfrwng arall. Daw'r gair o'r Lladin am "ystafell dywyll", sef dull cynnar o greu delwedd gyda golau'r haul, sef y camera obscura, un o gyndeidiau'r camera digidol modern.[1]

Gall y camera weithio gyda golau o'r spectrwm weladwy neu gyda rhannau eraill o'r sbectrwm electromagnetig. Gan amlaf, mae gan camerau gafn caeëdig gydag agorfa (yr aperture, neu dwll bychan) er mwyn i olau fynd i fewn i'r camera ac yna arwyneb recordio er mwyn cipio'r olau.[2] Mae ganddo hefyd lens o flaen yr agorfa i gasglu'r golau a'i ffocysu ar yr arwyneb recordio.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Batchen, Geoffrey. "Images formed by means of a camera obscura". Burning with Desire: The Conception of Photography. Cambridge, MA: MIT Press. tud. 78–85. ISBN 0-262-52259-4. "The camera obscura looms large in traditional historical accounts of photography's invention." 
  2. [http://photography.about.com/od/camerabasics/a/whatisacamera.htm Gwefan About.com; adalwyd 2 Medi 2013.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am camera
yn Wiciadur.