Llygad

Organ golwg yw llygad, sy'n galluogi organebau i weld. Mae'r llygad yn medru synhwyro golau ac yn ei drawsnewid yn gynhyrfiad electrocemegol o fewn y niwronau. Mewn organebau uwch mae'r llygad yn organ hynod o gymhleth sy'n casglu golau o'r amgylchedd, yn rheoli ei gryfder drwy ddiaffram yr iris yn ffocysu drwy lens grisialog hyblyg ac yn 'ffurfio' llun neu ddelwedd - y'n ddim ond set o signalau trydan mewn gwirionedd. Yna mae'n trosglwyddo'r negeseuon hyn i'r ymennydd drwy llinellau cymhleth o niwronau yn y nerf optig i gortecs y golwg a rhannau eraill o'r ymennydd. Mae gan 96% o anifeiliaid lygaid a system optig cymhleth fel hyn.[1] Ymhlith y rhain mae'r molysgiaid, yr arthropodau a'r cordogion (chordates).[2]
Gan ficro-organebau y ceir y llygad symlaf, nad ydynt yn gwneud fawr mwy nag adnabod a oes golau ai peidio.[3]
Datblygiad y llygad[golygu | golygu cod]
Datblygodd y math cyntaf o'r hyn y gellir ei alw'n 'llygad' 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl cyn y presennol (CP), sef y cyfnod Cambriaidd.[4] mae'r tardd cyffredin, i anifeiliaid, yn mynd yn ôl i'r monoffyletedd, sy'n rhannu yr un genynnau, a'r genyn allweddol, gweithredol yma yw'r 'PAX6'.
Mae gan rhai organebau lens nad yw'n hyblyg, gan gynnwys y seffalopodau, pysgod, amffibiaid a nadroedd, ond maent wedi datblygu dull arall o ffocysu ar wrthrych, sef drwy 'delesgopio' - fel camera.[5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Land, M. F.; Fernald, R. D. (1992). "The evolution of eyes". Annual Review of Neuroscience 15: 1–29. doi:10.1146/annurev.ne.15.030192.000245. PMID 1575438.
- ↑ Frentiu, Francesca D.; Adriana D. Briscoe (2008). "A butterfly eye's view of birds". BioEssays 30 (11–12): 1151–62. doi:10.1002/bies.20828. PMID 18937365.
- ↑ "Circadian Rhythms Fact Sheet". National Institue of General Medical Sciences. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-13. Cyrchwyd 3 Mehefin 2015. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Breitmeyer, Bruno (2010). Blindspots: The Many Ways We Cannot See. New York: Oxford University Press. t. 4. ISBN 978-0-19-539426-9.
- ↑ BioMedia Associates Educational Biology Site: What animal has a more sophisticated eye, Octopus or Insect?