Lens (anatomeg)
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | darn o organ, lens, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | llygad |
Cysylltir gyda | zonule of Zinn, vitreous humour |
Yn cynnwys | capsule of lens |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corffyn deuamgrwm (biconvex) ystwyth tra thryloyw sydd wedi’i leoli rhwng iris ac hylif gwydrog (vitreous humour) y llygad yw’r lens crisialog (neu lens grisialog). Ynghyd â’r gornbilen (cornea), mae’n helpu plygu golau sy’n cael ei ffocysu ar y retina. Drwy newid siâp, mae’r lens yn newid hyd ffocws y llygad fel y gall canolbwyntio ar wrthrychau sydd ar bellderau amrywiol. Mae hyn yn caniatau delwedd real o’r wrthrych dan sylw i gael ei daflu ar y retina. Gelwir newid yn nhrwch y lens yn ymgymhwyso (accommodation). Dyma broses sy’n debyg i’r un mewn camera wrth dynnu delwedd, ble mae’r lensiau yn cael eu symud wrth ffocysu. Mae lens y llygad yn fwy wastad yn y blaen nac ar yr ochr tu ôl.