Iris (anatomeg)
Gwedd
| Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | wfëa, endid anatomegol arbennig |
| Rhan o | wfëa |
| Yn cynnwys | pupillary zone, collarette, ciliary zone, iris root |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0lxkm |
| UMLS CUI | C0022077 |

Mae’r iris yn strwythur tenau a chrwn yn y llygad, sy’n rheoli diamedr a maint cannwyll y llygad, ac felly faint o olau sy’n cyrraedd y retina. Y rhan liwgar ydy'r iris, â channwyll y llygad yn ei ganol ac a amgylchynir gan y sglera gwyn. Mae gorchudd y llygad, sef y gornbilen, yn hollol dryloyw ac yn anweledig. Gwelir y pibellau gwaed yn y sglera yn hawdd.[1]