Blas

Oddi ar Wicipedia
Blas
Enghraifft o'r canlynolsense Edit this on Wikidata
Mathcanfyddiad Edit this on Wikidata
Rhan ofive wits Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diagram o flasbwynt dynol

Yr ymdeimlad a geir yn y geg pan ddaw’r tafod i gysylltiad â sylwedd ydy blas neu 'archwaeth' (lluosog 'blasau'). Yn draddodiadol ceir 5 math o flas, sy'n perthyn i'r system flasu. Yn ffigyrol gall y gair 'blas' olygu 'mwynhad o rywbeth' ee "Pan oedd yn iau, cafodd flas ar nofelau ffug-wyddonol" a gall yr ystyr gyfleu'r pleser neu'r profiad byr o rywbeth sy’n cyfleu ei natur sylfaenol.[1]

Mae'r ymdeimlad hwn o flasu'n digwydd pan fo sylwedd (bwyd fel arfer) yn adweithio'n gemegol yn y geg gyda chelloedd arbennig ar y blasbwyntiau (taste buds) a leolir bron i gyd ar y tafod a'r epiglotis. Ynghyd ag arogl, dyma'r ffordd y mae'r corff yn penderfynu a yw bwyd yn dderbyniol, yn ffres, yn dda, yn flasus. Mae'r wybodaeth yn cael ei gludo o'r blasbwyntiau, a elwir yn Lladin yn gustatory calyculi, i'r ymennydd drwy'r nerf deircainc (trigeminal nerve).[2][3] 'Breithell' neu 'gortecs flasu' yr ymennydd sy'n gyfrifol am ganfod blas.

Ceir miloedd o lympiau bychan ar y tafod, a elwir yn Lladin yn papillae ('tethi'), na ellir mo'u gweld gyda'r llygad noeth. O fewn pob un o'r rhain ceir cannoedd o flasbwyntiau.[4] Yr unig eithriad i hyn yw'r filiform papillae nad yw'n cynnwys blasbwyntiau. Mae na rhwng 2,000 a 5,000 ohonynt i gyd.[5] Lleolir y rhan fwyaf ohonynt ar gefn ac ar du blaen y tafod a cheir eraill ar y taflod ac aochrau a chefn y ceg.

Y pum blas yw:

  1. melyster
  2. surni
  3. blas hallt
  4. chwerwder a
  5. safri (o'r gair savoury) a elwir hefyd yn 'flas Umami'.[6][7]

Ceir tystiolaeth o'r pump yma drwy wneud arbrofion gwyddonol ac mae'r canlyniadau'n dangos eu bod yn dra gwahanol i'w gilydd. Gwahaniaethir rhwng y gwahanol flasau o fewn y blasbwynt drwy i foleciwlau ymwneud â'i gilydd mewn dwy ffordd wahanol: cyfunir moleciwlau yn y tri blas: melyster, chwerwder a blas safori; gwneir hyn drwy gyfuno'r G protein-coupled receptors ar bilen celloedd y blasbwynt. Mae blas hallt a surni, fodd bynnag, yn cael eu canfod pan fo metel alcalïaidd neu ionau hydrogen yn mynd i mewn i'r blasbwyntiau.[8]

Ymhlith yr elfennau eraill sy'n cyfri tuag at ein dehongliad ni o fwyd mae: arogl, tymheredd y bwyd a chemesthesis. Gellir dosbarthu blasau'n rhai 'anghymhellol' a rhai 'archwaethol'.[9] Mae melyster yn ein cynorthwyo i adnabod bwydydd sy'n llawn egni a chwerwder yn arwydd fod perygl o wenwyn yn y bwyd.[10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC) arlein; adalwyd 3 Mawrth 2018.
  2. What Are Taste Buds? kidshealth.org
  3. Human biology (Page 201/464) Daniel D. Chiras. Jones & Bartlett Learning, 2005.
  4. Schacter, Daniel (2009). Psychology Second Edition. United States of America: Worth Publishers. t. 169. ISBN 978-1-4292-3719-2.
  5. Boron, W.F., E.L. Boulpaep. 2003. Medical Physiology. 1st ed. Elsevier Science USA
  6. Kean, Sam (Fall 2015). "The science of satisfaction". Distillations Magazine 1 (3): 5. https://www.chemheritage.org/distillations/magazine/the-science-of-satisfaction. Adalwyd 2 Rhagfyr 2016.
  7. "How does our sense of taste work?". PubMed. 6 Ionawr 2012. Cyrchwyd 5 Ebrill 2016.
  8. Human Physiology: An integrated approach 5ed Rhifyn -Silverthorn, Pennod-10, Tudalen-354
  9. Why do two great tastes sometimes not taste great together? scientificamerican.com. Dr. Tim Jacob, Cardiff University. 22 Mai 2009.
  10. Miller, Greg (2 Medi 2011). "Sweet here, salty there: Evidence of a taste map in the mammilian brain.". Science 333 (6047): 1213. doi:10.1126/science.333.6047.1213. https://archive.org/details/sim_science_2011-09-02_333_6047/page/1213.
Chwiliwch am blas
yn Wiciadur.