Sodiwm clorid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sodiwm clorid
Halit-Kristalle.jpg
NaCl polyhedra.png
Names
Enw IUPACs
Sodiwm clorid
Sodium chloride
Enwau eraill
Halen cyffredin

Halit
Rock salt
Saline

Sodiwm clorig
Dynodwyr
3D model (Jmol)
Cyfeirnodau Beilstein 3534976
ChEBI
ChemSpider
ECHA InfoCard 100.028.726
Rhif EC 231-598-3
Cyfeirnodau Gmelin 13673
KEGG
MeSH [www.nlm.nih.gov/cgi/show_data.php?acc={{{MeSH}}} {{{MeSH}}}]
PubChem
Rhif RTECS VZ4725000
UNII
Priodweddau
Fformiwla cemegol NaCl
Màs molar 58.44 g mol−1
Golwg Grisial di-liw
Arogl Diarogl
Dwysedd 2.165 g/cm3
Pwynt berwi 801 °C (1,474 °F; 1,074 K)
Pwynt berwi 1,413 °C (2,575 °F; 1,686 K)
Hydoddedd mewn water 359 g/L
Hydoddedd mewn amonia 21.5 g/L
Hydoddedd mewn methanol 14.9 g/L
Indecs plygiant (nD) 1.5442 (at 589 nm)
Strwythur
Strwythur crisialaidd Ciwbig
(see text), cF8
Grŵp gofod Fm3m, No. 225
Cysonyn dellten
Lattice constant
a = 564.02 pm
Geometreg y cyfesurynnau Octahedral (Na+)
Octahedral (Cl)
Thermo-cemeg
Cynhwysedd gwres
sbesiffig C
36.79 J K−1 mol−1
Entropi So298 72.11 J K−1 mol−1
Newid enthalpi ΔfHo298 −411.12 kJ mol−1
Peryglon
NFPA 704
Flammability code 0: Will not burn. E.g., water Health code 1: Exposure would cause irritation but only minor residual injury. E.g., turpentine Reactivity code 0: Normally stable, even under fire exposure conditions, and is not reactive with water. E.g., liquid nitrogen Special hazards (white): no codeNFPA 704 four-colored diamond
LD50 3000–8000 mg/kg (drwy'r ceg mewn llygod a chwningod ayb.)[1]
Cyfansoddion Perthnasol
Ionau eraill Sodiwm fflorid
Sodiwm bromid
Sodiwm iodide
Arall cationau Lithiwm clorid
Potasiwm clorid
Rwbidiwm clorid
Caesium clorid
Oni nodir yn wahanol, nodir data ar gyfer defnyddiau yn eu cyflwr arferol (ar dymheredd o 25 °C (77 °F), 100 kPa)
Infobox references
Ceir erthygl arall ar halen, sy'n fwy cyffredinol na'r erthygl wyddonol hon.

Enw cyffredin sodiwm clorid, sy'n gyfansoddyn ionig, ydy halen ac mae ganddo'r fformiwla cemegol NaCl. Ceir yr un cyfran o'r naill fel y llall: hanner sodiwm a hanner clorid. Sodiwm clorid sy'n rhoi blas "hallt" ar fwyd ag ef hefyd yw'r elfen hallt yn nŵr y môr ac elfen gref o'r hylif allgellol nifer o organebau amlgellog.

Fe'i defnyddir ers miloedd o flynyddoedd i brisyrfio cig a bwydydd eraill e.e. cig moch ac mewn prosesau diwydiannol. Fe'i defnyddir hefyd ar wyneb ffyrdd yn y gaeaf ac er mwyn cynhyrchu'r cyfansoddion sodiwm a chlorin ar wahân e.e. ar gyfer cynhyrchu bwydydd anifeiliaid.

Cemeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Y ffurf solid[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei ffurf solid, mae pob ion wedi'i amgylchynu gan chwech ion o wefr gwahanol. Mae'r chwech yma wedi'u lleoli ar fertigau octahedron rheolaidd. Mae'r ionau cclorid mwyaf wedi'i gosod mewn areau ciwbic, ond mae'r ionau sodiwm llai yn llenwi'r llefydd gwag (y gwagle octahedral) sydd rhyngddynt. Fe welir y strwythur elfennol hwn mewn llawer cyfansoddyn arall a chaiff ei alw'n "strwythyr halit" neu "strwythur carreg halen".

Mae dargludedd thermol sodiwm clorid ar ei uchaf ar 2.03 W/(cm K) ar 8 K (−265.15 °C; −445.27 °F) ac mae'n gostwng i 0.069 ar dymheredd o 314 K (41 °C; 106 °F). Mae hefyd yn gostwng pan fo'n cynnwys amhuredd.[2]

Yr hydoddiant dyfrllyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r atyniad rhwng yr ion Na+ a'r Cl y ffurf solid mor gryf fel mai dim ond hydoddyddion polar megis dŵr a all hydoddi NaCl yn llwyr.

Hydoddedd NaCl mewn gwahanol hydoddiannau
(g NaCl / 1 kg o hydoddydd ar dymh. o 25 °C (77 °F))[3]
Dŵr 360
Fformamid 94
Glyserin 83
Propylin glycol 71
Asid fformig 52
Amonia hylifol 30.2
Methanol 14
Ethanol 0.65
Dimethylfformamid 0.4
1-Propanol 0.124
Sulffolan 0.05
1-Bwtanol 0.05
2-Propanol 0.03
1-Pentanol 0.018
Acetonitrile 0.003
Aseton 0.00042

Pan fo wedi'i hydoddi mewn dŵr, mae fframwaith sodiwm clorid yn ymddatod wrth i'r ionau Na+ a'r Cl gael eu hamgylchynu gan foleciwlau dŵr polar. Mae'r hylifau hyn yn cynnwys cymhlethau dŵr metal (metal aquo complex) gyda'r fformiwla: [Na(H2O)8]+, gyda phellter Na-O o 250 pm. Mae'r ionau clorid hyn yn hydoddedig iawn, pob un wedi'u hamgylchynu gyda chyfartaledd o 6 moleciwl o ddŵr.[4] Mae gan hydoddiannau o sodiwm clorid nodweddion gwahanol iawn i ddŵr pur. Rhewbwynt sodiwm clorid yw −21.12 °C (−6.02 °F) am 23.31 wt% o halen ac mae ei berwbwynt yn nes i 108.7 °C (227.7 °F).[5] O'i hydoddiad oer, mae halen yn crisialu fel y dihydrad NaCl·2H2O.

Amrywiadau ar y gwaelodlinau sefydlog annisgwyl[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel y dywedwyd yn gynharach mae'r gymhareb sodiwm i glorin yn gyfartal: 1 i 1. Yn 2013, darganfuwyd gwahanol stoichiometrau gan dîm Prifysgol Stony Brook; a rhagwelwyd fod pum gwahanol yn bodoli (e.e. Na3Cl, Na2Cl, Na3Cl2, NaCl3, a NaCl7). Mae bodolaeth rhai ohonynt wedi cael ei gadarnhau: NaCl3 ciwbig ac orthorhombig ac Na3Cl tetragonal a metalig dau-ddimensiwn.[6]

Cynhyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwarel carreg halen ger Mount Morris, Efrof Newydd, U.D.A.

Mas-gynhyrchir halen drwy anweddu dŵr o ddŵr môr a llynnoedd halen a thrwy mwyngloddio cerrig halen. Prif gyflenwr halen y byd yw Tsieina.[7] Yn 2010 cynhyrchwyd tua 270 million tunnell drwy'r byd a'r prif gynhyrchwyr oedd: Tsieina (60.0), Unol Daleithiau America (45.0), Yr Almaen (16.5), India (15.8) a Chanada (14.0).[8] Fe'i cynhyrchir hefyd, i raddau llawer llai, fel isgynnyrch mwyngloddio am botasiwm.

Uses[golygu | golygu cod y dudalen]

In addition to the familiar domestic uses of salt, more dominant applications of the approximately 250 megatons/year production (2008 data) include chemicals and de-icing.[9]

Cynhyrchu cemegolion[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir halen i gynhyrchu llawer o gemegolion, boed hynny'n uniongyrchol neu'n annuniongyrchol, a dyma sut y defnyddir y rhan fwyaf o halen y byd.[7]

Y diwydiant clor-alcali[golygu | golygu cod y dudalen]

Halen yw man cychwyn y broses clor-alcali, sef y broses o gynhyrchu clorin a sodiwm hydrocsid; dyma'r fformiwla cemegol:

2 NaCl + 2 H2O → Cl2 + H2 + 2 NaOH

Cynhelir electrolysis o fewn un o dair cell: cell ferciwri, cell diaffram neu gellbilen. Mae pob un o'r rhain yn defnyddio dulliau gwahanol o wahanu'r clorin o'r sodiwm hydrocsid. Mae technegau newydd yn cael eu treialu oherwydd fod y dulliau confensiynol yn defnyddio llawer iawn o egni ar ffurf trydan. Defnyddir clorin i greu PVC, diheintyddion a hydoddion cemegol megis paent. Defnyddir sodiwm hydrocsid gan ddiwydiannau sy'n cynhyrchu papur, sebon ac aliwminiwm.

Y diwydiant soda lludw (soda ash)[golygu | golygu cod y dudalen]

Drwy'r broses Solvay, defnyddir sodiwm clorid i gynhyrchu sodiwm carbonad (i wneud gwydr a sodiwm bicarbonad) a chalsiwm clorid.

Y safon[golygu | golygu cod y dudalen]

Crëwyd safon rhyngwladol ar gyfer sodiwm clorid gan ASTM Rhyngwladol o'r enw ASTM E534-13 a dyma'r safon ar gyfer analeiddio sodiwm clorid yn gemegol.

Defnyddiau eraill gan ddiwydiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n gyfansoddyn a ddefnyddir yn eang ac mae angen llawer ohono ar ddiwydiannau'r byd. Caiff ei ddefnyddio'n helaeth wrth dyllu am olew a nwy yn enwedig o fewn yr hylif a ddefnyddir wrth ddrilio. Ei bwrpas yw cynyddu dwysedd yr hylif er mwyn atal gwasgedd uchel. Pan fo'r dril yn taro ffurfiannau halen, ychwanegir halen i'r hylif drilio i ddirlenwi'r hydoddiant er mwyn cadw'r llinell ddrilio'n syth ac yn union.[7]

Mewn diwydiannau llifo a thecstiliau ychwanegir halen er mwyn gwahanu'r halogiadau organig ac er mwyn caniatáu i'r lliwiau a ddefnyddir fod yn fwy effeithiol.[7]

Fe'i defnyddir yn y broses o wneud aliminiwm, beriliwm, copr a fanadiwm. Mae ganddo bridweddau da fel cannydd hefyd ac fe'i defnyddir yn y diwydiant papur. Mae'r diwydiant lledr yn ei ddefnyddio'n helaeth er mwyn atal meicrobau rhag cynyddu o fewn crwyn anifeiliaid, ac i ddenu lleithder yn ôl i'r lledr ar ôl ei brosesu.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Martel, B.; Cassidy, K. (2004). Dadansoddiad risg: A Practical Handbook. Butterworth–Heinemann. p. 369. ISBN 1-903996-65-1. 
  2. Sirdeshmukh, Dinker B.; Sirdeshmukh, Lalitha and Subhadra, K. G. (2001). Alkali halides: a handbook of physical properties. Springer. pp. 65, 68. ISBN 3-540-42180-7. 
  3. Burgess, J. (1978). Metal Ions in Solution. New York: Ellis Horwood. ISBN 0-85312-027-7. 
  4. Lincoln, S. F.; Richens, D. T. and Sykes, A. G. (2003) "Metal Aqua Ions" Comprehensive Coordination Chemistry II; Cyfro1, tud. 515–555. doi:10.1016/B0-08-043748-6/01055-0
  5. Elvers, B. et al. (ed.) (1991) Ullmann's Encyclopedia of Industrial Chemistry, 5ed rhifyn. Cyfrol A24, Wiley, p. 319, ISBN 978-3-527-20124-2.
  6. doi:10.1126/science.1244989
    This citation will be automatically completed in the next few minutes. You can jump the queue or expand by hand
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Dennis S. Kostick Salt, U.S. Geological Survey, 2008 Minerals Yearbook
  8. Salt, U.S. Geological Survey
  9. Westphal, Gisbert et al. (2002) "Sodium Chloride" in Ullmann's Encyclopedia of Industrial Chemistry, Wiley-VCH, Weinheim doi:10.1002/14356007.a24_317.pub4
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am sodiwm clorid
yn Wiciadur.