Niwron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llun gan Santiago Ramón y Cajal o niwronau yn y cerebelwm.

Celloedd a gaiff eu cynhyrfu'n drydanol yn y system nerfol yw niwronau, sy'n prosesu a throsglwyddo gwybodaeth. Niwronau yw cyfansoddyn craidd yr ymennydd, llinyn asgwrn cefn fertebratau, a llinyn nerf fentrol infertebratau, a'r nerfau ymylol.

Mae nifer o wahanol fathau o niwronau yn bodoli: mae niwronau synhwyrol yn ymateb i gyffyrddiad, sain, golau, a nifer o ysgogiadau eraill sy'n effeithio'r organau synhwyrol ac yn anfon signalau i gord y cefn a'r ymennydd. Mae niwronau ysgogol yn derbyn arwyddion o'r ymennydd a'r asgwrn cefn ac yn achosi cyfangiad y cyhyrau ac yn effeithio chwarennau, mae cy-niwronau yn cysylltu'r niwronau gyda niwronau eraill o fewn yr asgwrn cefn.