Is-goch
Gwedd
Dau berson mewn llun lliw-ffug, a wnaed drwy ddefnyddio golau "thermal" is-goch. | |
| Enghraifft o: | damcaniaeth wyddonol |
|---|---|
| Math | ymbelydredd electromagnetig, ymbelydredd |
| Rhan o | sbectrwm electromagnetig |
| Rhagflaenwyd gan | sbectrwm gweladwy |
| Olynwyd gan | ton radio |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03wbm |
| Thesawrws y BNCF | 22505 |
Ymbelydredd electromagnetig ydyw golau is-goch (neu IR, sef infrared yn Saesneg) gyda thonfedd hirach na golau gweledol. Coch ydy'r lliw gweledol sydd â'r donfedd hiraf. Mae ei donfedd rhwng 750 nm ac 1 mm. Darganfuwyd y math hwn o ymbelydredd gan William Herschel, wrth iddo fesur tymheredd golau'r haul trwy prism.

Defnyddir lluniau is-goch yn helaeth, yn enwedig gan fyddinoedd y byd. Fe'i defnyddir i weld yn y nos, radio pellter byr, i ganfod tymheredd o bell, i gynhesu'r corff mewn sauna isgoch ac mewn seryddiaeth i ganfod tymheredd planedau a gwrthrychau eraill megis cymylau moleciwlar.