William Herschel
Gwedd
| William Herschel | |
|---|---|
| Ganwyd | Friedrich Wilhelm Herschel 15 Tachwedd 1738 Hannover |
| Bu farw | 25 Awst 1822 Slough |
| Man preswyl | Lloegr, Caerfaddon, Datchet, Old Windsor, Observatory House |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Hannover, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | seryddwr, cyfansoddwr, chwaraewr obo, cerddor, ffisegydd |
| Swydd | President of the Royal Astronomical Society |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | Account of a Comet. By Mr. Herschel, F. R. S.; Communicated by Dr. Watson, Jun. of Bath, F. R. S, discovery of Uranus, Herschel wedge, is-goch |
| Tad | Isaac Herschel |
| Mam | Anna Ilse Moritzen |
| Priod | Mary Baldwin |
| Plant | John Frederick William Herschel |
| Gwobr/au | Medal Copley, Royal Guelphic Order, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
| llofnod | |
Seryddwr o'r Almaen a Lloegr oedd Syr William Herschel (15 Tachwedd 1738 - 25 Awst 1822). Efallai'n seryddwr enwocaf y 18g, darganfu Syr William Herschel y blaned Wranws, nifer o loerennau, llawer o niwloedd sêr newydd, clystyrau sêr a sêr dwbl. Roedd hefyd yr unigolyn cyntaf i ddisgrifio'n gywir ffurf ein galaeth ni, Galaeth y Llwybr Llaethog, yn ogystal â darganfodd ymbelydredd isgoch o'r haul. Roedd yn enedigol o Hannover yn yr Almaen; roedd ei chwaer, Caroline Herschel, yn seryddwr o fri hefyd.
Roedd ei fab, Syr John Herschel, yntau'n seryddwr nodedig; enwir Mynydd Herschel yn yr Antarctig ar ei ôl, yn ogystal â chrater ar y lloeren Mimas, un o'r lloerennau mwyaf i gylchu'r blaned Sadwrn.