Caroline Herschel
Caroline Herschel | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 16 Mawrth 1750 ![]() Hannover ![]() |
Bu farw | 9 Ionawr 1848 ![]() Hannover ![]() |
Man preswyl | Lloegr ![]() |
Galwedigaeth | seryddwr, mathemategydd, canwr ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Isaac Goodnight ![]() |
Mam | Anna Ilse Moritzen ![]() |
Gwobr/au | Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol ![]() |
Gwefan | http://www.fembio.org/english/biography.php/woman/biography/caroline-herschel ![]() |
Roedd Caroline Lucretia Herschel (16 Mawrth 1750 – 9 Ionawr 1848) yn seryddwraig Almaenig. Roedd yn chwaer i'r seryddwr enwog William Herschel, ond ni dderbyniodd yr un sylw na chanmoliaeth yn ystod ei gyrfa. Fe'i ganwyd yn Hannover, cafodd deiffoid pan oedd yn ddeg oed, ac ni thyfodd wedyn; ei thaldra oedd pedair troedfedd a thair modfedd.[1]
Roedd hi'n gyfrifol am ddarganfod wyth o gomedau. Etholwyd hi i'r Gymdeithas Seryddiaethol Brenhinol [Royal Astronomical Society] ym 1835; hi a Mary Somerville, traethodydd ar bynciau gwyddonol o'r Alban, oedd aelodau benywaidd cyntaf y gymdeithas. Ar ei phen-blwyd yn 96 oed, yn 1846, cyflwynwyd Medal Aur dors Wyddoniaeth iddi gan Frenin Prwsia.[2]
Enwir yr asteroid '281 Lucretia' a chrater ar y Lleuad ar ei hôl.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Nysewander, Melissa. Caroline Herschel. Biographies of Women Mathematicians, Atlanta: Agnes Scott College, 1998.
- ↑ Herschel, Caroline Lucretia (1876). Herschel, Mrs. John (gol.). Memoir and Correspondence of Caroline Herschel. Llundain: John Murray, Albemarle Street.