Mynydd Herschel

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Herschel
Mynyddoedd Admiralty
Mynydd Herschel
Llun Mynydd Herschel
Uchder 3,335m
Lleoliad Yr Antarctig
Gwlad Mynyddoedd Admiralty

Mynydd 3335m o uchder yn yr Antarctig yw Mynydd Herschel. Saif 2.6 km (1.6 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Fynydd Peacock ger pen Rhewlif Ironside, ym Mynyddoedd Admiralty, un o is-gadwyni'r Mynyddoedd Trawsantarctig, yn Nhir Victoria, yr Antarctig.

Darganfuwyd y mynydd yn 1841 gan Syr James Clark Ross, a'i enwodd ar ôl y seryddwr enwog Syr John F. W. Herschel, mab Syr William Herschel.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.