Wranws (planed)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wranws
Wranws
Symbol
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r Haul 19.19US

2.87×109km

Radiws cymedrig 2,870,972,200km
Echreiddiad 0.04716771
Parhad orbitol 84b 3d 15.66a
Buanedd cymedrig orbitol 6.8352 km s−1
Gogwydd orbitol 0.76986°
Nifer o loerennau 27
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol 51,118 km
Arwynebedd 8.13×109km2
Más 8.686×1025 kg
Dwysedd cymedrig 1.29 g cm−3
Disgyrchiant ar yr arwyneb 8.69 m s−2
Parhad cylchdro -17a 14m
Gogwydd echel 97.86°
Albedo 0.51
Buanedd dihangfa 21.29 km s−1
Tymheredd ar yr arwyneb:
isafrif cymedrig uchafrif
59K 68K ...
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig 120kPa
Hydrogen 83%
Heliwm 15%
Llosgnwy 1.99%
Amonia 0.01%
Ethan 0.00025%
Asetylen 0.00001%
Carbon monocsid
Hydrogen sylffid
arlliw

Y seithfed blaned oddi wrth yr Haul a'r trydydd mwyaf o ran tryfesur yw Wranws. Mae Wranws yn fwy ei dryfesur ond yn llai ei gynhwysedd na Neifion. Enwyd Wranws ar ôl Wranos, duw Groeg y nefoedd.

Un rheswm pam na adnabyddwyd Iwranws fel planed tan 1781 oedd ei bod mor eithriadol o bell, ddwywaith pellach na Sadwrn o'r haul. Golyga hynny ei bod yn ymddangos yn fechan iawn iawn o'r ddaear (prin iawn yn weladwy â'r llygad noeth) ond hefyd mae'n eithriadol o araf yn teithio rownd yr haul – unwaith bob 84 mlynedd. Mewn gwirionedd roedd sawl seryddwr wedi ei nodi fel seren ers 1690, ond neb cyn Herschell wedi sylwi ei bod yn symyd yn araf bach.

MAe Iwranws yn cymeryd 84 mlynedd i gylchdroi am yr haul – blwyddyn Iwranaidd go hir felly – ac mae'n cylchdroi ar ei hechel bob 17 awr, sy'n eitha cyflym o ystyried ei maint ac yn golygu bod gwyntoedd cryfion iawn yn chwyrlîo ar ei hwyneb. Nodwedd anarferol yw fod gogwydd ei chylchdroi 'dyddiol' ar ongl o 98° i'r fertigol. Hynny yw, mae fel 'tae'n gorwedd ar ei hochr o'i chymharu â'r planedau eraill. Un damcaniaeth i esbonio hynny yw ei bod wedi gwrthdaro a chorff arall yn y gorffennol pell a bod hynny wedi ei thaflu oddiar ei hechel.

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu dipyn o firi ynghlyn ag enwi'r corff gofodol newydd. Roedd Herschell, fel sais teyrngar a oedd, yn sgîl ei ddarganfyddiad, bellach yn cael ei noddi'n hael gan y Brenin Sior III ac am ei henwi'n 'Georgium Sidus' neu'r blaned George ar ôl ei noddwr. Diolch i Dduw chafodd y syniad hwnnw fawr o groeso gan seryddwyr dramor. Cynigion eraill oedd 'Neptune', 'Herschillium' neu'r blaned Herschell ac Uranus.

Ymhen amser yr enw 'Uranus', gynigiwyd gan y seryddwr Almaenig Johann Bode, ddaeth i'r brîg. Dyma'r ffurf Ladin o Ouranos, sef duw'r awyr gwreiddiol y Groegiaid, gafodd ei sbaddu a'i ladd gan ei fab Cronos (Sadwrn) cyn i Cronos yntau gael ei drechu yn ei dro gan ei fab Zeus (Iau) a ddaeth yn frenin y duwiau (gweler rhif 7 o'r gyfres hon, Llafar Gwlad 98). Dadl Bode oedd, am mai Sadwrn oedd tad Iau, y dylsai'r blaned newydd gael ei henwi ar ôl tad Sadwrn, er mwyn cwbwlhau'r olyniaeth fel 'tae.

Daliodd llawer iawn o gyhoeddiadau seisnig at yr enw 'Georgium Sidus' tan yr 1850au. Mae'n ddiddorol bod Elfennau Seryddiaeth, gyhoeddwyd gan Thomas Gee yn 1851 yn dal i arddel yr enw Herschell, gan ychwanegu: ' Ond ar hyn o bryd, yn enwedi gan seryddion tramor, Uranus yw enw mwyaf cyffredin y blaned hon.'

Herschell oedd yr enw hefyd yn Yr Anianydd Cristnogol (21ain arg., 1856), sef cyfieithiad y Parch Thomas Levi o waith Thomas Dick, lle dywed (tud. 209) bod bywyd arni: '…gallwn fod yn sicr, i'r hwn a osododd fodau teimladol mewn unrhyw barth, gymhwyso, yn ol deddfau anadnabyddus…(g)yfansoddiad yr aneddwr â natur ei aneddle.'

'…A'u cyflwr wedi'i wneuthur at y lle
A drefnwyd gan Ragluniaeth ddoeth y Ne.'


Dargafyddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Darganfuwyd Wranws, y blaned gyntaf i gael ei darganfod yn amserau modern, gan William Herschel ar 13 Mawrth 1781. Roedd mewn gwirionedd wedi cael ei gweld llawer gwaith o'r blaen ond wedi cael ei ystyried yn seren (cafodd ei gatalogio fel 34 Tauri ym 1690 gan John Flamsteed). Cafodd ei enwi gan Herschel fel "the Georgium Sidus" (y blaned Sioraidd) i anrhydeddu ei noddwr, Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig; roedd eraill yn ei galw wrth yr enw "Herschel". Cafodd yr enw "Wranws" ei gynnig gan Bode mewn cydymffurfiaeth â'r enwau planedol eraill o fytholeg glasurol ond ni ddaeth mewn defnydd cyffredin tan 1850.

Roedd y darganfyddiad yn peri dipyn o benbleth, embaras hyd'noed, i astrolegwyr. Hyd yn hyn roedd y planedau yn ffitio'n daclus iawn i batrwm cyfarwydd a hir-sefydliedig lle roedd gan bob un ei heffaith benodol (honedig) ar ein tynghedau ni ddaearolion wrth iddynt deithio'r llwybr drwy'r gofod oedd yn mynd a nhw ar draws y cytserau a elwir yn 12 arwydd y Sidydd. Ystyrid, er enghraifft, y byddai pa bynnag blaned ddigwyddai fod yn croesi eich arwydd Sidydd adeg eich genedigaeth yn ddylanwadol iawn arnoch am weddil eich oes.

I ddilynwyr y cyfundrefnau astrolegol Tsieiniaidd ac Indiaidd yr ateb hawdd oedd anwybyddu'r blaned newydd yn llwyr gan ei hystyried yn rhy bell i gael unrhyw effaith. Hydnoed yma, gwelwn nad oes son am Iwranws yng ngwaith yr astrolegwr / almanaciwr R Jones yn ei 'Seryddiaeth' (1830). Ond yn raddol, yma yn y gorllewin, aethpwyd ati i greu rôl newydd iddi a bellach fe'i cysylltir â deallusrwydd, dilyn eich trywydd eich hun, syniadau anghonfensiynnol a darganfyddiadau. Mae hyn yn codi, i raddau helaeth iawn, o'r ffaith fod darganfyddiad Iwranws, ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn Oes yr Ymoleuo (Enlightenment) pan ddaeth bri ar syniadau am ddemocratiaeth, cyfiawnder a hawliau dynol. Gwelwn hyn yn yr egwyddorion tu cefn i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau newydd a'r Chwyldro Ffrengig. Dyma hefyd gyfnod yr Oes Ramantaidd gyda'i phwyslais ar unigolyddiaeth a rhyddid mewn mynegiant celfyddydol.

Ymweliadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymwelwyd Wranws ar 24 Ionawr 1986 gan Voyager 2. Mae'r rhan fwyaf o'r planedau'n troi ar echel sydd bron â pherpendicwlar i arwyneb y rhod ond mae echel Wranws bron â bod yn gyfochrog i'r rhod. Yn ystod ymweliad Voyager 2 roedd pegwn deheuol Wranws yn pwyntio tua'r Haul. Canlyniad hyn ydy bod ardaloedd pegynol Wranws yn derbyn mwy o egni'r Haul nag ei hardaloedd cyhydeddol. Serch hynny, mae Wranws yn fwy poeth ei gyhydedd nag ei begynau. Ni wybyddir y mecanwaith sy'n achosi hynny.

Gwneuthuriad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfansoddir Wranws yn anad dim o greigiau a rhewogydd amrywiol, gyda dim ond 15% hydrogen ac ychydig heliwm. Ymddengys nad oes calon greigiog gan Wranws eithr mae ei deunydd mwy neu lai wedi ei ddosbarthu'n unffurf.

Mae awyrgylch Wranws tua 83% hydrogen, 15% heliwm a 2% methan.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Wranws fandiau o gymylau sy'n chwythu o gwmpas yn gyflym. Mae lliw glas Wranws yn ganlyniad o fethan yn yr awyrgylch uchaf yn llyncu golau coch. Gellir bod yna fandiau lliwgar fel ar Iau ond maen nhw wedi eu gorchuddio gan yr haen fethan.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Wranws fodrwyau. Fel modrwyau Iau maen nhw'n dywyll ond fel y rhai Sadwrn maen nhw wedi eu cyfansoddi gan ronynnau eithaf mawr, rhai ohonynt yn cyrraedd tryfesur o 10 metr yn ogystal â llwch mân. Mae 11 o fodrwyau wedi cael eu darganfod, pob un ohonynt yn llesg; Adnabyddir y fwyaf disglair ohonynt fel y fodrwy Epsilon. Roedd modrwyau Wranws y cyntaf ar ôl y rhai Sadwrn i gael eu darganfod.

Mae maes magnetig Wranws yn hynod am nad ydy wedi ei ganoli ar ganol y blaned ac mae wedi ei ogwyddo bron â 60 gradd ynglŷn ag echel ei chylchdro. Mae'n debyg o gael ei achosi gan symudiadau mewn dyfnderoedd cymharol bas o fewn Wranws.

Darganfuwyd 10 lloeren fach gan Voyager 2. Roedd eisoes 5 lloeren fawr ganddi. Mae'n debyg fod yna rhagor o loerennau o fewn y modrwyau.

Lloerennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Wranws 21 o loerennau (neu 'leuadau') sydd wedi cael eu henwi a 6 lloeren heb enw.

Lleuadau gweddol fychan yw'r rhain – dydy'r mwya ohonynt, Titania, ddim cymaint a hanner maint ein Lleuad ni ac ni fyddai'r cwbwl ohonynt efo'i gilydd ond tri chwarter maint y Lleuad beth bynnag.

Yn wahanol i brif leuadau'r 'hen' blanedau, fe enwyd lleuadau Iwranws ar ôl cymeriadau allan o weithiau Shakespeare ag Alexander Pope, e.e. Miranda, Ariel, Umbriel, Titania ac Oberon ayyb. Ymgais oedd hyn i'w delweddu fel planed 'fodern', gan symud i ffwrdd o'r traddodiad o enwi cyrff gofodol ar ôl duwiau ac arwyr y Rhufeiniaid – sylwer mai Iwranws yw'r unig blaned gafodd ei henwi ar ôl duw Groegaidd yn hytrach na Rhufeinig.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion