Llyffant

Oddi ar Wicipedia
Llyffantod a brogaod
Marchlyffant Americanaidd
(Rana catesbeiana)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Is-ffylwm: Vertebrata
Dosbarth: Amphibia
Urdd: Anura
Merrem, 1820
Is-urddau

Archaeobatrachia
Mesobatrachia
Neobatrachia

Grŵp o amffibiaid yn perthyn i'r urdd Anura (o'r Groeg 'an' neu 'dim' ac 'aoura' sef 'cynffon') yw'r llyffant neu froga. Mae tua 4,800 o rywogaethau sy'n byw ledled y byd, yn enwedig mewn mannau llaith yn y trofannau, sef dros 85% o ymlusgiaid. Mae ganddynt gorff tew a byr, pen mawr a choesau ôl hir ac maent yn gigysyddion. Does gan yr oedolyn ddim cynffon.

Mae'r ffosil hynaf sydd wedi'i ganfod o lyffant yn ffosil o 'broto-lyffant' a ymddangosodd yn yr epoc y Triasic cynnar, a hynny ym Madagasgar, ond credir fod eu tarddiad yn llawer hŷn: y cyfnod Permaidd, 265 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Nodweddir corff y llyffant gan lygaid mawr sy'n ymestyn allan o'r corff, tafod hir, coesau sy'n plygu'n daclus a diffyg cynffon. Er mai pyllau dŵr a thir gwlyb, ydy cynefin y rhan fwyaf o frogaod, gall oedolion ambell rywogaeth fyw o dan y ddaear neu ar goed. Mae ei groen yn chwarenog, gyda secretiad cas, drewllyd neu angheuol. Ceir cryn amrywiaeth o ran lliw'r croen, gyda chuddliw'n chwarae rhan bwysig yn hyn o beth: gall amrywio o frown i lwyd i wyrdd ac ar adegau lliwiau ffyrnig megis coch neu felyn neu ddu i ddychryn ei ysglyfaeth.

Yn gyffredinol, mewn dŵr mae'r llyffant yn dodwy ei wyau, a elwir yn grifft, ac maent yn deor yn y dŵr fel penaubyliaid bychan gyda chynffonau hir a thagellau mewnol a chegau ar gyfer bwyta llysdyfiant yn hytrach na chig. Cwbwlheir y cylch bywyd pan drawsnewidiant i ffurf oedolyn. Ar dir mae ambell rywogaeth yn dodwy ei wyau ac eraill yn hepgor y cyfnod penbwl. Er mai cigysyddion ydy'r rhan fwyaf o rywogaethau, mae rhai'n hollysol ac mae rhai'n gwledda ar ffrwyth.

Mae poblogaeth llyffantod yn gyffredinol wedi gostwng yn eithriadol ers y 1950au. Mae dros treuan ohonyn nhw, bellach, dan fygythiad, gyda dros 120 wedi darfod ers 1980.[1] Maen nhw'n cael eu difa gan lawer o afiechydon modern megis chytridiomycosis, a hynny drwy'r byd ac maent yn ffefryn i'w bwyta gan lawer o rywogaethau gan gynnwys dyn.

Cymru a'i llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir dwy rywogaeth gyffredin o lyffant yng Nghymru: Bufo bufo, y llyffant dafadennog, a Rana temporaria a elwir broga yn Ne Cymru a llyffant melyn neu lyffant cyffredin yng Ngogledd Cymru.

Bufo bufo
Bufo bufo
Rana temporaria
Rana temporaria
Y ddwy rywogaeth a geir yng Nghymru

Ceir llawer o gyfeiriadau mewn llenyddiaeth at y llyffant gan gynnwys:

  • cerdd gan y bardd Elfed 'Gwyn ap Nudd':
Gwyddost lle mae’r llyffant melyn
Yn lletya rhwng y rhedyn...

Ffenoleg[golygu | golygu cod]

Mae patrwm tymhorol y llyffant wedi newid llawer dros y ddwy ganrif aeth heibio. Dyma gofnod gan y bardd gwlad a naturiaethwr John Clare o Swydd Northampton ar 11 Mawrth 1826 (gwanwyn cynnar meddai Clare!) o lyffantod yn dodwy: The frogs have began to croke and spawn in the ponds and dykes.. Erbyn diwedd ail ddegawd yr 21ed ganrif, dodwy grifft ym mis Chwefror yw'r norm yng Cymru o leiaf, ac fe gafwyd dodwy ym mis Ionawr yn rheolaidd (ee.2019, 2018, 2016, 2012, 2008, 2007, 2005, 2002 ac un posib yn 1999[2]

Mae'n debyg bod llyffantod benyw yn cludo'r jeli sydd o gwmpas yr wyau yn eu cyrff am fisoedd ynghynt. Mae hynny'n esgor ar sylwadau am "grifft sêr" pan fo llyffamtod yn csel eu llarpio gan crëyrod neu ddyfrgwn a'r jeli ym cael eu gadael y tu allan i'r cynefin arferol.

5 Chwe 1940 Meirioli a “thywydd grifft” ym Môn:

Llangristiolus, Môn: Daeth yn well tywydd yr wythnos hon - yn fwy mild ond yn wlyb. "Tywydd grifft" medd yr hen bobl - gwlyb ond 'mild' iawn.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pimm, Stuart L. (1979). "The structure of food webs". Theoretical Population Biology 16 (2): 144–158. doi:10.1016/0040-5809(79)90010-8. PMID 538731. http://www.nicholas.duke.edu/people/faculty/pimm/publications/pimmreprints/12_Pimm_TPB_1979.pdf. Adalwyd 2014-04-19.
  2. Tywyddiadur gwefan Llên Natur
  3. Dyddiadur Owen Thomas Griffiths, drwy garedigrwydd y dweddar Mair Griffith