Ffosil

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Amonit

Gweddillion creadur byw, neu blanhigyn, o'r gorffennol pell wedi troi'n garreg (carreg waddodol fel rheol) ydy ffosil. Ffosilota ydy'r weithred o gasglu ffosiliau, a defnyddiwyd y gair hwn yn gyntaf yn 1758 mewn llythyr gan rai o Forrisiaid Môn.[1]

Mae casglu ac astudio ffosilau ar hyd yr oesoedd (neu'r linell amser ddaearegol yn elfen gyffrous a hanfodol o Baleontoleg: sut a pha bryd y cawsant eu ffurfio a'r berthynas rhyngddynt a'r creigiau o'u cwmpas a sut y maent yn perthyn i'w gilydd, drwy dacsonmoeg. Yn fras gellir dweud fod pob ffosil o leiaf 10,000 o flynyddoedd oed.[2] Mae eu hamrediad felly'n ymestyn o'r ienengaf i'r hynaf yn yr is-raniadau amser canlynol: o'r Gyfres (neu 'Epoc') ddaearegol Holocen hyd at yr Eon Archaean - sef 3.48 biliwn o flynyddoedd yn ôl,[3]

Mae maint ffosiliau'n amrywio'n fawr, felly hefyd maint pethau sy'n fyw heddiw. Gallant amrywio o facteria ungell, un micrometer mewn diametr i ddinosor neu goeden anferthol sy'n pwyso sawl tunnell. Rhan yn unig o'r creadur sydd wedi marw sy'n cael ei gadw ar ffurf ffosil fel arfer: fel arfer y rhan a fineraleiddiwyd yn ystod ei fywyd e.e. dannedd caled neu esgyrn anifeiliaid asgwrn-cefn neu ysgerbwd allanol, calchog anifeiliaid di-asgwrn cefn. Ceir hefyd ffosiliau o olion wedi'u gadael gan yr anifail ei hun e.e. ôl traed neu garthion (coprolitau).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein (GPC); adalwyd Tachwedd 2015. Testun: ML ii. 67, "...yn cregyna ac yn ffosilotta tan brydnhawn Sadwrn." Gweler: cyfrol J H Davies (1967): The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris 1728-65.
  2. "theNAT - San Diego Natural History Museum". Sdnhm.org. http://www.sdnhm.org/science/paleontology/resources/frequent/. Adalwyd 5 Tachwedd 2012.
  3. Borenstein, Seth (13 Tachwedd 2013). "Oldest fossil found: Meet your microbial mom ". Associated Press. http://apnews.excite.com/article/20131113/DAA1VSC01.html. Adalwyd 15 Tachwedd 2013.