Cyfres (stratigraffeg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
System Cyfres Oes Oes (Ma)
Chwarteraidd Pleistosenaidd Gelasaidd ifancach
Neogenaidd Plïosenaidd Piacensaidd 2.588–3.600
Sancleaidd 3.600–5.332
Mïosenaidd Mesinaidd 5.332–7.246
Tortonaidd 7.246–11.608
Serravallaidd 11.608–13.65
Langhianaidd 13.65–15.97
Bwrdigalaidd 15.97–20.43
Acwitanaidd 20.43–23.03
Paleogenaidd Oligocenaidd Cataidd hynach
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009.

Israniadau o haenau o greigiau daearegol ydy Cyfres wedi'i sylfaenu ar oed y creigiau; cânt eu cysylltu gyda dull o'u dyddio a elwir yn "epoc", sy'n air wedi'i ddiffinio o fewn llinell amser daeareg.

Mae cyfres yn is-ddosbarth o ddosbarth a elwir yn "System"; ceir hefyd israniadau oddi fewn i gyfres.

Term ydyw, felly, sy'n diffinio haenau o greigiau a grewyd ar yr un adeg, ac mae'n gyfystyr i'r term 'epoc'.

Enghreifftiau[golygu]

Mae'r canlynol (fel y gwelir yn y tabl ar y dde) yn enghreifftiau o gyfresi (daearegol): Cyfres Pleistosenaidd, Plïosenaidd, Mïosenaidd a Chyfres Oligocenaidd.

Gweler hefyd[golygu]

e  h
Unedau daearegol mewn geocronoleg a stratigraffeg[1]
Talpiau o (strata) creigiau mewn stratograffeg Cyfnodau o amser mewn cronoleg daeareg Nodiadau
Eonothem
Eon
cyfanswm o 4, hanner biliwn o flynyddoed, neu ragor
Erathem
Era
cyfanswm o 10, sawl can miliwn o flynyddoedd
System
Cyfnod
Cyfres
Epoc
degau o filiynnau o flynyddoedd
Oes
Oes
miliynnau o flynyddoedd
Chronozone
Chron
llai nag oes, nis defnyddir yn llinell amser yr ICS

Cyfeiriadau[golygu]