Mïosen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mïosenaidd)
System Cyfres Oes Oes (Ma)
Cwaternaidd Pleistosenaidd Gelasaidd ifancach
Neogenaidd Plïosenaidd Piacensaidd 2.588–3.600
Sancleaidd 3.600–5.332
Mïosenaidd Mesinaidd 5.332–7.246
Tortonaidd 7.246–11.608
Serravallaidd 11.608–13.65
Langhianaidd 13.65–15.97
Bwrdigalaidd 15.97–20.43
Acwitanaidd 20.43–23.03
Paleogenaidd Oligosenaidd Cataidd hynach
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009.

Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy Mïosen (Saesneg: Miocene) (symbol MI[1]) o fewn y cyfnod Neogen, sy'n ymestyn o tua 23.03 to 5.332 miliwn o flynyddoedd yn ôl (Ma). Fe enwyd y cyfnod hwn gan Syr Charles Lyell daw'r enw o ddau air Groegaidd: μείων (meiōn, “llai”) a καινός (kainos, “newydd”) a golyga "llai diweddar" gan fod y cyfnod hwn yn cynnwys 18% yn llai o anifeiliaid di-asgwrn cefn na'r cyfnod Plïosen. Mae Mïosen yn dilyn y cyfnod Oligosen a daw'r Plïosen ar ei ôl.

Y Mïosen ydy epoc cyntaf y Cyfnod Neogen.

Roedd planhigion ac anifeiliaid y Cyfnod Mïosen yn gymharol fodern: roedd mamaliaid ac adar edi hen sefydlu erbyn y cyfnod hwn, felly hefyd y morfil, y morloi a gwymon. Mae'r cyfnod hwn o ddiddordeb mawr i ddaearegwyr gan y ffurfiwyd llawer iawn o fynyddoedd yr Himalayas ar yr adeg yma. Effaith hyn ar y tywydd yn Asia oedd ffurfio monswnau a rhewlifau yn Hemisffer y Gogledd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Geologic Age Symbol Font (StratagemAge)" (PDF). USGS. 99-430. Cyrchwyd 2011-06-22.
  2. An Zhisheng, John E. Kutzbach, Warren L. Prell & Stephen C. Porter (2001). "Evolution of Asian monsoons and phased uplift of the Himalaya Tibetan plateau since Late Miocene times". Nature 411: 62–66. doi:10.1038/35075035.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]