Pleistosen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pleistosenaidd)
Neidio i: llywio, chwilio
Israniadau y System Cwaternaidd
Cyfnod Epoc Oes Oed
(Miliwn o flynyddoedd CP)
Cwaternaidd Holosen 0.0117–0
Pleistosen Tarantian 0.126–0.0117
Ionian 0.781–0.126
Calabrian 1.80–0.781
Gelasian 2.58–1.80
Neogen Pliosen Piacenzian older
Yn Ewrop a Gogledd America, rhennir yr Holocen i gyfnodau ar Raddfa Blytt-Sernander, fel a ganlyn: Preboreal, Boreal, Iwerydd, Isogledd, a Tan-Iwerydd. Ceir hefyd israniadau lleol, sydd fel arfer wedi'u mesur o ran tymheredd: cyfnodau oer (rhewlifol) a chyfnodau cynnes (rhyngrewlifol). Mae'r cyfnod rhewlifol olaf yn gorffen gyda Younger Dryas, sy'n gyfnod oer.

Epoc daearegol ydy Pleistosen (Saesneg: Pleistocene) (symbol PS[1]) a barodd o tua 2,588,000 hyd at 11,700 o flynyddoedd yn ôl ac sy'n rhychwantu'r holl gyfnodau diweddar o rewlifau.

Pleistosen gogledd Sbaen: Mamoth, llew yn bwyta gweddillion carw, tarpans a rhinosorws blewog.

Syr Charles Lyell a fathodd y term ym 1839 i ddisgrifio strata o greigiau yn Sicily; sylweddolodd fod yn y creigiau hyn ffawna molysgaidd a bod 70% ohonyn yn dal i fodoli. Roedd y ffaith hwn yn ei wneud yn gwbwl wahanol i'r epoc Plïosenaidd ac yn ei wneud yn gyfnod gwahanol ac iau. Bathodd y term "Pleistocene" ("Mwayfa newydd") o'r Groeg: πλεῖστος, pleīstos, "mwyaf", a καινός, kainós (a Ladineiddiwyd fel cænus), "newydd"; roedd hyn, felly, yn cyferbynnu gyda'r cyfnod a'i rhagflaenodd, sef y Cyfnod Plïosenaidd ("Mwy newydd", o'r gair πλείων, pleíōn, "mwy", a kainós Pliocene), a'r cyfnod a'i dilynodd sef Holocen ("yn gyfangwbwl newydd", a darddodd o'r Groeg ὅλος, hólos, "yn gyfangwbwl" (Saesneg: whole, a kainós) sy'n ymestyn hyd at y presennol.

Rhewlifau Hemisffer y Gogledd yn ystod yr Uchafbwynt Rhewlifol Diwethaf. Pan grewyd llenni iâ 3 - 4 km (1.9 - 2.5 mill) o drwch, sy'n gyfysr â lefel y môr yn gostwng tua 120 m (390 tr).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]