Uchafbwynt Rhewlifiant Diwethaf

Oddi ar Wicipedia
Map o newidiadau yn nhymheredd wyneb y môr a rhewlifiant yn ystod yr uchafbwynt rhewlifol diwethaf, yn ôl Prosiect CLIMAP (Long range Investigation, Mapping, and Prediction.

Uchafbwynt Rhewlifiant Diwethaf (Saesneg: Last Glacial Maximum; LGM) oedd y cyfnod diwethaf yn hanes hinsawdd y Ddaear yn yr Oes Iâ cyfredol pan oedd llenni iâ yn eu hanterth.

Cynyddodd y llenni iâ i'w huchafbwynt 26,500 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Dechreuodd y broses o'u meirioli - yn Hemisffer y Gogledd - oddeutu 19,000 CP ac yn Antartica - 14,000 CP.[1] Ar yr adeg hon, gwelwyd llenni enfawr o rew yn gorchuddio llawer o Ogledd America, gogledd Ewrop ac Asia. Cafodd y llenni iâ hyn effaith ysgytwol ar hinsawdd y Ddaear gan achosi sychder, diffeithdiro a gostyngiad sylweddol yn lefel y môr.[2] Fe'i dilynwyd gan y cyfnod a elwir yn 'Uchafbwynt Rhewlifiant Hwyr'.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Clark, Peter U.; Dyke, Arthur S.; Shakun, Jeremy D.; Carlson, Anders E.; Clark, Jorie; Wohlfarth, Barbara; Mitrovica, Jerry X.; Hostetler, Steven W. et al. (2009). "The Last Glacial Maximum". Science 325 (5941): 710–4. Bibcode 2009Sci...325..710C. doi:10.1126/science.1172873. PMID 19661421.{
  2. Gweler: After the Ice: a global human history, 20.000–5.000 BC gan Steven Mithen; Gwasg Harvard University Press (2004); 0-674-01570-3 t. 3