Morfil

Oddi ar Wicipedia
Morfilod
Amrediad amseryddol: 50–0 Miliwn o fl. CP
Eocene – diweddar
Morfil cefngrwm
(Megaptera novaeangliae)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamal
Is-ddosbarth: Eutheria
Urdd: Cetacea

Rhoddir yr enw morfilod ar famaliaid yn urdd y morfiligion, sydd a'u tiriogaeth yn y môr. Y morfil glas (Balaenoptera musculus) yw'r anifail mwyaf yn y byd. Mae morfilod yn aelodau o urdd y morfiligion sy'n cynnwys dolffiniaid a llamidyddion.

Mae dau grŵp o forfilod:

O'r morfiligion i gyd, y morfilod yw'r ymwelydd lleiaf aml â Chymru. Cofnodwyd ers 1973, fodd bynnag, ymweliadau'r y morfil pengrwn, y morfil trwyn potel, y morfil pigfain a'r morfil danheddog ar draethau Cymru. Mae llamhidyddion a dolffiniaid yn ymwelwyr llawer mwy cyffredin, fodd bynnag, yn enwedig ym Mae Ceredigion. Mae'r morfil yn bwysig mewn llenyddiaeth sawl gwlad gan gynnwys yr Inuit, Ghana a Fietnam.

Ni fu gan Gymru erioed lynges hela morfilod, er bod rhai morwyr o Gymru wedi bod ar gychod hela Lloegr. Cafodd Aberdaugleddau ei sefydlu'n wreiddiol ar gyfer llongwyr hela morfilod o Nantucket, Massachusetts, a hynny yn y 1790au. Cychwynodd hela morfilod yn yr 17g a daeth i ben yn 1986, er bod rhai gwledydd megis Japan yn dal i'w hela.

Maint[golygu | golygu cod]

Mae eu maint yn amrywio rhwng y morfil glas, sef yr anifail mwyaf erioed ar y blaned[1] sy'n 30 metr (98tr) a'r rhywogaeth pigmi lleiaf a elwir yn y morfil sberm lleiaf (Saesneg: pygmy sperm whale; Lladin: Kogia breviceps) sy'n 3.5 metr (11 tr). Mae'r morfil yn byw ym mhob un o gefnforoedd y byd ac mae miliynau ohonyn nhw.[2] Mae ganddyn nhw oes hir: gall y morfil cefngrwm er enghraifft fyw i fod yn 77 mlwydd oed a gall y morfil pen-bwa fyw am dros gan mlynedd.

Morfiles y Basgiaid gyda'i llo (cyw).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "What is the biggest animal ever to exist on Earth?". How Stuff Works. Cyrchwyd 2007-05-29.
  2. "Whale Population Estimates". International Whaling Commission. Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-21. Cyrchwyd Mawrth 2010. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help); Check date values in: |accessdate= (help)
Chwiliwch am morfil
yn Wiciadur.