Morfil Llwyd
Gwedd
| Morfil llwyd | |
|---|---|
| Morfil llwyd | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Cetacea |
| Teulu: | Eschrichtiidae |
| Genws: | Eschrichtius |
| Rhywogaeth: | E. robustus |
| Enw deuenwol | |
| Eschrichtius robustus (Lilljeborg, 1861) | |
Morfil o deulu'r Eschrichtiidae yw'r morfil llwyd (Eschrichtius robustus). Ef yw'r unig aelod o'r teulu sy'n fyw heddiw. Gall y rhai mwyaf gyrraedd hyd o tua 15 medr a phwysau o tua 35 tunnell.
Ceir dwy boblogaeth yn y Cefnfor Tawel. Mae'r boblogaeth fwyaf yn mudo rhwng y dyfroedd o gwmpas Alasga, lle mae'n bwydo, a Gwlff Califfornia, ger penrhyn Baja California ar arfordir gorllewinol Mecsico, lle genir y lloi. Mae'r boblogaeth arall, sy'n llawer llai ac mewn perygl, yn mudo rhwng Môr Ockotsk a De Corea. Credir nad oes mwy na 101 o'r boblogaeth yma, tra amcangyfrifir fod y boblogaeth americanaidd rhwng 17,000 a 26,000.

| Mae gan Wicirywogaeth wybodaeth sy'n berthnasol i: Eschrichtius robustus |