Gwlff California
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Gwlff Califfornia)
Math | gwlff |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | North Pacific Ocean, Y Cefnfor Tawel |
Gwlad | Mecsico |
Arwynebedd | 160,000 km² |
Cyfesurynnau | 28°N 112°W |
Hyd | 1,126 cilometr |
Bae mawr yn y Cefnfor Tawel gel arfordir gorllewinol Mecsico yw Gwlff California,[1] a adwaenir hefyd fel Môr Cortés. Saif rhwng penrhyn Baja California a'r tir mawr.
Yr Ewropead cyntaf i ddarganfod y Gwlff oedd Francisco de Ulloa yn 1539. Credai ei fod wedi darganfod ffordd i hwylio o'r Cefnfor Tawel i Gefnfor Iwerydd, ond dangosodd Melchior Díaz yn 1540 nad oedd hyn yn wir.
Mae afon Colorado yn llifo i mewn i'r Gwlff. Un o brif atyniadau'r gwlff yw'r morfilod llwyd, sy'n dod yma i roi genedigaeth i'w lloi. Dynodwyd Ynysoedd a gwarchodfeydd Gwlff California yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 70.