Morfil Glas
| Morfil glas | |
|---|---|
| Morfil glas | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Cetacea |
| Teulu: | Balaenopteridae |
| Genws: | Balaenoptera |
| Rhywogaeth: | B. musculus |
| Enw deuenwol | |
| Balaenoptera musculus (Linnaeus, 1758) | |
| Lledaeniad y Morfil Glas | |
Y mwyaf o'r morfilod, ac anifail mwyaf y byd, yw'r morfil glas neu forfil asgellog glas (Balaenoptera musculus). Credir mai ef yw'r anifail mwyaf a fu erioed. Gall y rhai mwyaf gyrraedd hyd o tua 33 medr a phwysau o tua 170 tunnell. Mae tafod y morfil glas tua'r un fain ag eliffant ac yn pwyso tua 2 dunnell.
Er gwaethaf ei faint, mae'n medru nofio'n gyflym, gan gyrraedd cyflymdra o 40 hyd 50 cilomedr yr awr. Maent yn bwydo ar blancton, yn arbennig cril. Gall un morfil fwyta tua 3500 kg mewn diwrnod. Mae ei diriogaeth yn cynnwys Cefnfor yr Iwerydd, y Cefnfor Tawel, Cefnfor India a Chefnfor y De. Erbyn tua dechrau'r 20g roedd y rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu oherwydd fod cymaint ohonynt wedi eu dal. Erbyn hyn, mae'r rhywogaeth yn cael ei gwarchod, a chredir fod rhwng 5,000 a 12,000 ohonynt bellach.