Eon (daeareg)
Gwedd
| Talpiau o (strata) creigiau mewn stratigraffeg | Cyfnodau o amser mewn cronoleg daearegol | Nodiadau |
|---|---|---|
| cyfanswm o 4, hanner biliwn o flynyddoed, neu ragor | ||
| cyfanswm o 10, sawl can miliwn o flynyddoedd | ||
| diffiniwyd 22, degau i ~miliwn o flynyddowedd | ||
| degau o filiynnau o flynyddoedd | ||
| miliynnau o flynyddoedd | ||
| llai nag oes, nis defnyddir yn llinell amser yr ICS | ||
Rhaniad amser daearegol yw Eon (weithiau 'aeon'), sy'n cael ei rannu ymhellach yn Orgyfnodau. Ceir 4 eon, gyda phob un yn ymestyn am ysbaid o dros 500 miliwn o flynyddoedd:
- Ffanerosöig - yr eon rydym yn byw ynddi heddiw
- Proterosöig - atmosffer o ocsigen yn cael ei greu; bywyd amlgellog yn ymddangos
- Archeaidd - ffurfiau syml o fywyd: bacteria ungellog yn ymddangos. Mae'r eon hwn (3,800 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at 2,500 miliwn o flynyddoedd yn ôl) wedi'i rannu'n bedwar gorgyfnod, sef yr Eoarcheaidd, y Palaeoarcheaidd, y Mesoarcheaidd a'r Neoarcheaidd.
- Hadeaidd - yn yr oen hwn y crewyd y creigiau hynaf ar y ddaear (4,030 Miliwn o flynyddoedd CP). Mae'r eon hwn yn ymestyn o oddeutu 4,600 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd 3,800 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- ↑ Comisiwn Rhyngwladol ar Stratograffeg. "International Stratigraphic Chart" (PDF).