Francesco Petrarca

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Petrarch)
Jump to navigation Jump to search
Francesco Petrarca
Francesco Petrarch by Justo de Gante.jpg
Ganwyd 20 Gorffennaf 1304 Edit this on Wikidata
Arezzo Edit this on Wikidata
Bu farw Gorffennaf 1374, 19 Gorffennaf 1374 Edit this on Wikidata (69 oed)
Arquà Petrarca Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth athronydd, bardd, cyfieithydd, awdur geiriau, ysgrifennwr, dringwr mynyddoedd, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Il Canzoniere Edit this on Wikidata
Arddull barddoniaeth Edit this on Wikidata
Tad Ser Petracco Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bardd, awdur ac ysgolhaig Eidalaidd oedd Francesco Petrarca, hefyd Pertrarch (20 Gorffennaf 1304 - 19 Gorffennaf 1374). Ystyrir ef yn un o ffigyrau amlycaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal a sylfaenydd Dyneiddiaeth.

Cafodd ei eni yn Arezzo. Roedd ei dad wedi ei alltudio o Fflorens gyda Dante fel un o arweinwyr y Welfiaid, a threuliodd Petrarca ei ieuenctod yn Avignon. Astudiodd ym Montpellier (1319-1323) cyn astudio'r gyfraith yn Bologna o 1323 hyd 1325. Daeth yn gyfeillgar a Giovanni Boccaccio. Yn 1326, wedi marwolaeth ei dad, dychwelodd i Avignon, lle parhaodd i astudio'r clasuron Lladin.

Er ei fod ef ei hun yn ystyried mai ei weithiau athronyddol mewn Lladin oedd ei weithiau pwysicaf, daeth yn enwog am ei gerddi mewn Eidaleg, y Canzoniere, yn enwedig ei gerddi serch i "Laura". Galwyd y soned Betrarchaidd ar ei ôl.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Africa (arwrgerdd am Scipio Africanus)
  • De viris illustribus
  • Rerum memorandarum libri
  • Canzoniere