Francesco Petrarca
Francesco Petrarca | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 20 Gorffennaf 1304 ![]() Arezzo ![]() |
Bu farw | 19 Gorffennaf 1374 ![]() Arquà Petrarca ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, bardd, cyfieithydd, awdur geiriau, ysgrifennwr, dringwr mynyddoedd, hunangofiannydd, ieithegydd ![]() |
Adnabyddus am | Il Canzoniere ![]() |
Arddull | barddoniaeth ![]() |
Tad | Petracco ![]() |
Mam | Eietta Canigiani ![]() |
Gwobr/au | Q1209503 ![]() |
Chwaraeon |
Bardd, awdur ac ysgolhaig Eidalaidd oedd Francesco Petrarca, hefyd Pertrarch (20 Gorffennaf 1304 - 19 Gorffennaf 1374). Ystyrir ef yn un o ffigyrau amlycaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal a sylfaenydd Dyneiddiaeth.
Cafodd ei eni yn Arezzo. Roedd ei dad wedi ei alltudio o Fflorens gyda Dante fel un o arweinwyr y Welfiaid, a threuliodd Petrarca ei ieuenctod yn Avignon. Astudiodd ym Montpellier (1319-1323) cyn astudio'r gyfraith yn Bologna o 1323 hyd 1325. Daeth yn gyfeillgar a Giovanni Boccaccio. Yn 1326, wedi marwolaeth ei dad, dychwelodd i Avignon, lle parhaodd i astudio'r clasuron Lladin.
Er ei fod ef ei hun yn ystyried mai ei weithiau athronyddol mewn Lladin oedd ei weithiau pwysicaf, daeth yn enwog am ei gerddi mewn Eidaleg, y Canzoniere, yn enwedig ei gerddi serch i "Laura". Galwyd y soned Betrarchaidd ar ei ôl.
Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Africa (arwrgerdd am Scipio Africanus)
- De viris illustribus
- Rerum memorandarum libri
- Canzoniere
- Articles with missing Wikidata information
- Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (SBN)
- Beirdd Eidalaidd y 14eg ganrif
- Beirdd Eidalaidd yn yr iaith Eidaleg
- Beirdd Eidalaidd yn yr iaith Ladin
- Genedigaethau 1304
- Llenorion Eidaleg y Dadeni
- Llenorion Lladin y Dadeni
- Marwolaethau 1374
- Sonedwyr
- Ysgolheigion Eidalaidd yn yr iaith Ladin
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Eidalaidd yn yr iaith Ladin