Llyfryn sieb

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clawr o lyfryn sieb Saesneg o'r 19g cynnar.

Llyfryn byr o lenyddiaeth ysgafn oedd yn boblogaidd yng ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern cynnar yw llyfryn sieb.[1] Fel rheol roedd y llyfryn sieb yn bamffled o bedair tudalen, neu luosrif o bedwar, gan amlaf 5½×4¼ modfedd, wedi ei bwytho a chyda torluniau pren yn darlunio'r stori. Cawsant eu cyhoeddi'n ddi-enw a'u gwerthu gan drafaelwyr. Roeddynt yn cynnwys amryw o ddeunydd darllen poblogaidd: straeon am arwyr, chwedlau, llên gwerin, straeon beiblaidd, ffraethebion a digrifwch, baledi, straeon am droseddau a dihirod, hwiangerddi a rhigymau plant, gwersi ysgol, a breuddwydion, a ffurfiau defnyddiol megis almanaciau.

Y Ffrancod oedd y cyntaf i gyhoeddi llyfrynnau sieb, a hynny ar ddiwedd y 15g. Ffynnodd y Volksbücher yn yr Almaen yng nghanol yr 16g, ac roedd y rhain yn cynnwys addasiadau rhyddiaith o ramantau canoloesol ac amryw straeon o wledydd eraill. Ymddangosodd llyfrynnau tebyg yn Lloegr, ac oddi yno danfonwyd enghreifftiau i'r Amerig a gawsant eu hailargraffu'n lleol.[2] Yn y 18g dechreuwyd cynhyrchu llyfrynnau sieb yn yr iaith Saesneg i blant, yn cynnwys hen rigymau neu fywgraffiadau tybiedig o gymeriadau cyfarwydd, megis Old Mother Hubbard. Mae llyfrynnau sieb o werth i ysgolheigion sy'n astudio diwylliant gwerin gan eu bod yn cynnwys caneuon gwerin ac hen chwedlau megis Sinderela a Jac y Cawrladdwr, yn aml â darluniau sydd yn enghreifftiau o gelf werin. Argraffiadau cryno answyddogol o nofelau poblogaidd, megis Robinson Crusoe, oedd rhai ohonynt. Roedd ambell un yn cynnwys straeon cyfoes o natur gyffrous a gawsant eu cyflwyno fel newyddion go iawn, yn debyg i'r papurau clecs yn y 19g.[3]

Y cylchgrawn rhad a ganodd gnul y llyfryn sieb yn y 19g.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  llyfryn%20sieb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) chapbook. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2017.
  3. Josepha Sherman (gol.), Storytelling An Encyclopedia of Mythology and Folklore, cyfrol 1 (Armonk, Efrog Newydd: M. E. Sharpe, 2008), tt. 88–89.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Alexander Helm, The Chapbook Mummers’ Plays: A Study of the Printed Versions of the North-West of England (Caerlŷr: Guizer, 1969)
  • Peter Stockham, Chapbook ABC’s: Reprints of Five Rare and Charming Early Juveniles (Efrog Newydd: Dover, 1974).
  • Harry B. Weiss, A Book About Chapbooks, the People’s Literature of Bygone Times (Trenton, New Jersey: Edwards Brothers, 1942).