John Lyly
John Lyly | |
---|---|
Ganwyd | 1554 Caint |
Bu farw | 18 Tachwedd 1606 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, ysgrifennwr, nofelydd, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1589 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601 |
llofnod | |
Dramodydd a rhyddieithwr o Loegr oedd John Lyly (tua 1554 – Tachwedd 1606). Un o Ffraethebwyr y Prifysgolion yn Oes Elisabeth ydoedd, a chafodd ddylanwad pwysig ar arddulliau rhyddiaith a chomedi'r theatr Saesneg.
Ganwyd yng Nghaint, a mae'n sicr iddo dreulio rhywfaint o'i fachgendod yng Nghaergaint, lle'r oedd ei dad yn gofrestrydd yng ngwasanaeth yr archesgobaeth. Aeth i Rydychen yn 1569 i astudio am raddau baglor (1573) a meistr (1575) yng Ngholeg Magdalen.[1] Symudodd i Lundain tua 1576, ac ymunodd â gosgordd Edward de Vere, Iarll Rhydychen, yn 1578.[2]
Daeth yn adnabyddus am ei ddwy ramant epistolaidd Euphues: The Anatomy of Wit (1578) ac Euphues and His England (1580). Gellir ystyried cylch Euphues yn ffurf gynnar ar y nofel Saesneg ac yn esiampl o gomedi foesau. Rhoddir y gwaith hwn ei enw i "ewffiwyddiaeth", arddull cymhleth sy'n defnyddio gwrthgyferbyniadau, cyflythrennu, a chwestiynau rhethregol.
Wedi 1580, ysgrifennodd Lyly gomedïau yn bennaf: Campaspe a Sapho and Phao (1583–84), Gallathea (1585–88), Endimion (1588), Midas (1589), Love’s Metamorphosis (1590), Mother Bombie (1590), a The Woman in the Moon (1595). Cawsant eu perfformio gan gwmni Children of Paul's, ac eithrio The Woman in the Moon.[3]
Priododd Beatrice Brown yn 1583 a chawsant wyth o blant.[1] Gadawodd Lyly osgordd Iarll Rhydychen tua 1588, a gwasanaethodd yn Aelod Senedd Lloegr o 1589 i 1601. Roedd yn un o wŷr llys y Frenhines Elisabeth, a fe'i benodwyd yn ysgrifennydd yn swyddfa Meistr y Gyfeddach.[2] Er i ddramodwyr eraill megis Thomas Kyd, Christopher Marlowe, a William Shakespeare efelychu ei gomedïau rhamant, bu llai o lewyrch ar Lyly nah a fu, a chafodd ei anwybyddu pan ofynnodd i'r Frenhines am gymorth ariannol. Bu farw yn Llundain, yn ddyn tlawd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 William Allan Neilson (gol.), Chief Elizabethan Dramatists (Efrog Newydd: Houghton Mifflin, 1911), t. 869.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Lyly, John" yn Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 26 Chwefror 2019.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) John Lyly. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Chwefror 2019.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Joseph W. Houppert, John Lyly (Boston: Twayne, 1975).