Barddoniaeth Lloegr yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Oddi ar Wicipedia
Barddoniaeth Lloegr yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Y gerdd "Anthem for Doomed Youth" yn llaw'r bardd, Wilfred Owen.

Crewyd etifeddiaeth eang o farddoniaeth ingol, drawiadol ym marddoniaeth Saesneg Lloegr gan brofiad milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18). Bu ambell fardd delfrydgar yn canu clodydd gwladgarol, er enghraifft Rupert Brooke yn ei linellau "If I should die, think only this of me: / That there's some corner of a foreign field / That is for ever England", ond ar y cyfan mynegir chwerwder a realaeth erchyll gan feirdd y ffosydd, yn eu plith Wilfred Owen, Siegfried Sassoon, ac Isaac Rosenberg.

Ar ddechrau'r rhyfel, ymunodd Rupert Brooke â'r Llynges Frenhinol Wirfoddol Wrth Gefn (RNVR) ac aeth yn yr alldaith i Antwerpen yn niwedd Medi 1914. Bu Brooke yn enw amlwg ymhlith cylchoedd llenyddol Lloegr ers ei ddyddiau ym Mhrifysgol Caergrawnt, pryd oedd yn gyfeillgar â sawl un o Grŵp Bloomsbury. Cyn y rhyfel, fe'i cydnabuwyd yn un o'r beirdd Sioraidd a beirdd Dymock. Ymddangosodd pum soned ganddo, y "War Sonnets", yn y gyfrol New Numbers yn nechrau 1915, ac ailgyhoeddwyd dwy ohonynt – "The Dead" a "The Soldier" – yn The Times Literary Supplement ar 11 Mawrth. Cawsant eu cymeradwyo gan y cyhoedd a chydnabuwyd Brooke fel "bardd rhyfel y genedl". Bu farw Brooke ar long yn y Môr Aegeaidd yn Ebrill 1915 o sepsis wedi iddo gael ei frathu gan fosgito ar ei ffordd i'r Dardanelles. Ym Mai, cyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth ryfel, 1914 and Other Poems, a ail-argraffwyd 11 o weithiau erbyn diwedd 1915.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Casgliadau a blodeugerddi
  • Vivien Newman (gol.), Tumult and Tears: An Anthology of Women’s First World War Poetry (Barnsley, De Swydd Efrog: Pen & Sword, 2016).
Astudiaethau a beirniadaeth
  • Max Egremont, Some Desperate Glory: The First World War the Poets Knew (Llundain: Picador, 2014).
  • John Lewis-Stempel, Where Poppies Blow: The British Soldier, Nature, The Great War (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 2016).
  • Susanne Christine Puissant, Irony and the Poetry of the First World War (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2009).