J. R. R. Tolkien

Oddi ar Wicipedia
J. R. R. Tolkien
J. R. R. Tolkien, ca. 1925.jpg
FfugenwOxymore Edit this on Wikidata
GanwydJohn Ronald Reuel Tolkien Edit this on Wikidata
3 Ionawr 1892 Edit this on Wikidata
Bloemfontein Edit this on Wikidata
Bu farw2 Medi 1973 Edit this on Wikidata
Bournemouth Edit this on Wikidata
Man preswylBirmingham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd, bardd, academydd, awdur plant, cyfieithydd, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, swyddog milwrol, awdur, ysgrifennwr, hanesydd, darlunydd, athro, rhyddieithwr, ieithegydd Edit this on Wikidata
SwyddRawlinson and Bosworth Professor of Anglo-Saxon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Hobbit, The Lord of the Rings, The Silmarillion, Tree and Leaf, Roverandom, The Adventures of Tom Bombadil, Beowulf: The Monsters and the Critics Edit this on Wikidata
Arddullffantasi, llenyddiaeth plant, Cyfieithu, gwyddoniaeth llenyddiaeth, barddoniaeth, rhyddiaith Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorge MacDonald, Edward Wyke Smith, Jules Verne, H. Rider Haggard, Lord Dunsany, Edward Burne-Jones, William Morris, G. K. Chesterton, Elias Lönnrot, Beowulf Edit this on Wikidata
MudiadInklings Edit this on Wikidata
TadArthur Reuel Tolkien Edit this on Wikidata
MamMabel Suffield Edit this on Wikidata
PriodEdith Tolkien Edit this on Wikidata
PlantJohn Tolkien, Michael Tolkien, Christopher Tolkien, Priscilla Tolkien Edit this on Wikidata
LlinachTolkien family Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Prometheus - Hall of Fame, Prometheus Award, Nebula Award for Best Script, Nebula Award for Best Script, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Nebula Award for Best Script, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Hugo Award for Best Dramatic Presentation, Long Form, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Hugo Award for Best Dramatic Presentation, Long Form, International Fantasy Award, Ditmar Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://tolkienestate.com, https://tolkien.co.uk Edit this on Wikidata

Roedd John Ronald Reuel Tolkien (3 Ionawr 18922 Medi 1973) yn ieithydd ac yn academydd amlwg, ac yn athro ar lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1925 a 1945, cyn darlithio ar yr iaith Sacsonaidd yno rhwng 1945 a 1959. Roedd hefyd yn Babydd o ymroddedig. Mae Tolkien fwyaf enwog am ysgrifennu’r llyfrau The Hobbit, The Lord of the Rings a The Silmarillion, sydd wedi eu selio ar fyd ffantasi Middle-earth.

Ganed Tolkien yn Bloemfontein, Orange Free State, (De Affrica nawr) ond symudodd y teulu i Loegr pan oedd yn dair oed.

Tolkien ac iaith[golygu | golygu cod]

O oed cynnar, pan welodd enwau Cymraeg ar drelars glo o dde Cymru, fe ymddiddorodd Tolkien mewn ieithoedd. Graddiodd mewn ieitheg Hen Roegaidd, ac ym 1915 graddiodd gyda Hen Islandeg fel pwnc arbennig. Gweithiodd ar Eiriadur Saesneg Rhydychen rhwng 1918 a 1920. Serch hyn, ei brif ddiddordebau ieithyddol oedd Hen Saesneg a'r Gymraeg.

Aeth Tolkien ati i ddyfeisio nifer o ieithoedd gwahanol ar gyfer The Lord of the Rings, yn cynnwys Sindarin (a seliwyd ar y Gymraeg) a Quenya (a seliwyd ar Ffinneg). Hen Saesneg, neu Rohirric, oedd iaith gwerin gwlad ffuglennol Rohan.

Yn ei draethawd English and Welsh, dywedodd: Welsh is of this soil, this island, the senior language of the men of Britain; and Welsh is beautiful.[1]

Ysgrifau Eraill[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â'r enwog The Hobbit a The Lord of the Rings ysgrifennodd Tolkien weithiau yn ymwneud a'i fyd chwedlonol. Ysgrifennodd The Silmarillon cyn yr uchod, sy'n trafod hen hanesion Middle Earth yn ei hoes gyntaf. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd hefyd nifer o ysgrifau gwahanol yn trafod gwahanol agweddau o'i fyd amrywiol.

Ym 1955 traddododd ei ddarlith English and Welsh i Brifysgol Rhydychen, yn disgrifio'r Gymraeg fel iaith 'brydferthach na'r Saesneg'.

Golygwyd rhai o'i weithiau anghyhoeddedig gan ei fab, Christopher Tolkien.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. WikiQuote; adalwyd 17 Rhagfyr 2013