Elias Lönnrot
| Elias Lönnrot | |
|---|---|
| Ganwyd | 9 Ebrill 1802 Sammatti |
| Bu farw | 19 Mawrth 1884 Sammatti |
| Man preswyl | Uchel Ddugiaeth y Ffindir, Hövelö |
| Dinasyddiaeth | Sweden, Uchel Ddugiaeth y Ffindir |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, addysgwr, ysgrifennwr, bardd, emynydd, meddyg ac awdur, botanegydd, arbenigwr mewn llên gwerin, meddyg, ieithegydd, casglwr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Kalevala |
| Tad | Fredrik Johan Lönnrot |
| Mam | Ulrika Lönnrot |
| Priod | Maria Piponius |
| Perthnasau | Miina Lönnrot |
| Llinach | family of Elias Lönnrot |
| Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Sant Anna, 3ydd Dosbarth, Urdd Santes Anna, Ail Ddosbarth, Marchog Urdd y Seren Pegwn |
Ieithydd, bardd a chasglwyr llên gwerin o'r Ffindir oedd Elias Lönnrot (
ynganiad ) (9 Ebrill 1802 – 19 Mawrth 1884), a aned yn Sammatti yn ardal Nyland.

O ran ei alwedigaeth roedd Lönnrot yn feddyg cefn-gwlad am ugain mlynedd yn Kajana a dreuliai ei amser yn cofnodi cerddi a baledi traddodiadol y werin, yn eu plith y Kalevala, arwrgerdd genedlaethol y Ffindir, a gyhoeddwyd ganddo rhwng 1838 a 1849. Mewn cydnabyddiaeth o'i waith apwyntiwyd Lönrot yn athro llenyddiaeth Ffinneg ym mhrifysgol Helsinki (1853 - 1862).
Yn ogystal â'r Kalevala cyhoeddodd geiriadur mawr Ffinneg-Swedeg (1866 - 1880) a osododd seiliau cadarn i'r iaith Ffinneg fel iaith lenyddol.
Ymddiddorai mewn botaneg hefyd ac yn 1860 cyhoeddodd ei Flora Fennica – Suomen Kasvisto, un o'r llawlyfrau cynharaf ar flodau a phlanhigion mewn iaith frodorol i ymddangos. Roedd y llyfr yn ddylanwadol iawn yn Llychlyn.