Sindarin
| Sindarin | ||
|---|---|---|
| Eglathrin | ||
| Crëwyd gan | J. R. R. Tolkien | |
| Dyddiad a sefydlwyd | c. 1915 – 1973 | |
| Sefyllfa a defnydd | Y byd ffuglennol, Middle Earth | |
| Cyfanswm siaradwyr | Sindar | |
| Categori (pwrpas) | Ieithoedd artiffisial | |
| Categori (ffynonellau) | iaith a priori, ond mae ganddi gysylltiau i ieithoedd yr ellyllon eraill. Dylanwadwyd Sindarin gan y Gymraeg yn bennaf. | |
| Codau ieithoedd | ||
| ISO 639-1 | Dim | |
| ISO 639-2 | art | |
| ISO 639-3 | sjn | |
| Wylfa Ieithoedd | – | |
Un o ieithoedd a luniwyd gan J. R. R. Tolkien ar gyfer ei storïau ffantasi yn Arda, yn bennaf yng Nghanol-ddaear yw Sindarin. Mae Sindarin ymhlith un o nifer o ieithoedd a siaredir gan yr Ellyllon llwydion. Seliwyd Sindarin ar y Gymraeg yn ei ffurf ac yn ei sain.
Mae'r gair Sindarin yn dod o Quenya am "Ellyll llwyd", gan mai iaith Ellyllon Llwydion Beleriand yr oedd. Ellyllon y Trydydd Tylwyth oedd y rhain, a arhosodd ym Meleriand ar ôl Gwahanu'r Ellyllon. Dieithriwyd eu hiaith rhag iaith eu cyd-ellyllon a hwyliodd dros y môr. Mae Sindarin yn dod o iaith gynt o'r enw Telerin Gyffredin, a ddaeth o Eldarin Gyffredin, iaith yr Eldar cyn eu gwahanu, hynn yw, yr Ellyllon a benderfynodd ddilyn y Faliau a ymgymerodd yr Orymdaith Fawr i Falinor. Hyd yn oed cyn hynny, roedd yr Ellyllon Faliau yn siarad iaith wreiddiol yr Ellyllon, Quenya Gyntefig.
Yn y Drydedd Oes (lleoliad Arglwydd y Modrwyau), Sindarin oedd yr iaith a siaredid gan y rhan fwyaf o Ellyllon yn rhan orllewinol Canol-ddaear. Cyfeirir yn aml at Sindarin yn Dafod yr Ellyllon neu Iaith yr Ellyllon yn Arglwydd y Modrwyau. Pan ddychwelodd y Noldor Quenya at Ganol-ddaear, dechreuont siarad Sindarin. Roedd cysylltiadau rhwng Quenya a Sindarin, gyda llawer o eiriau cytras, ond roedd cryn wahaniaeth rhwng gramadeg a strwythurau'r ddwy iaith. Mae Sindarin yn fwy newidiol na Quenya, ac yn ystod yr Oes Gyntaf, roedd llawer o dafodieithoedd rhanbarthol. Defnyddiwyd yr iaith yn Noriath (cartref Thingol, Brenin y Sindar), a adnabuwyd yn Ddoriathreg, ac yn ôl sawl Ellyll llwyd, dyma yw ffurf fwyaf pendefig yr iaith.
Yn yr Ail Oes, roedd llawer o Ddynion Númenor yn siarad Sindarin yn rhugl. Parhaodd eu disgynyddion, Dúnedain Gondor ac Arnor, siarad Sindarin yn y Drydedd Oes.
Gramadeg
[golygu | golygu cod]Ffonoleg
[golygu | golygu cod]Mae ffonoleg y Sindarin yn debyg i ffonoleg y Gymraeg.
Cytseiniaid
[golygu | golygu cod]| gwefusol | deintiol | gorfannol | taflodol | felar | glotal | ||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| eglur | ochrol | ||||||
| ffrwydrol | p b | t d | k3 g | ||||
| trwynol | m | n | ŋ4 | ||||
| ffrithiol | f v | θ ð1 | s | x5 | h | ||
| tril | r̥ 6 r | ||||||
| lled-gyffwrdd | l l̥2 | j | ʍ7 w | ||||
- ysgrifennir <th> a <dh>
- ysgrifennir <lh>
- ysgrifennir <c>
- ysgrifennir <ng>
- ysgrifennir <ch>
- ysgrifennir <rh>
- ysgrifennir <wh>
Dyma gymhariaeth rhwng cytseiniaid y Sindarin gyda cytseiniaid y Gymraeg:
| Sindarin | p | b | f | v | th | dh | t | d | n | s | r | rh | l | lh | i | c | g | ng | ch | w | wh | h |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Cymraeg | p | b | ff | f | th | dd | t | d | n | s | r | rh | l | ll | i | c | g | ng | ch | w | chw | h |
Treigladau
[golygu | golygu cod]Mae gan Sindarin system dreigladau sy'n debyg i'r a geir yn y Gymraeg:
| Sindarin1 | Cymraeg | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
- Gweld ‘Consonant mutations in conceptual evolution of Noldorin/Sindarin phonology’ (Saesneg) gan Ryszard Derdzinski ac yr adran berthnasol Archifwyd 2006-09-23 yn y Peiriant Wayback yn ‘Sindarin — yr iaith ardderchog’ (Saesneg), gan Helge Fauskanger.
Enghreifftiau o testunau
[golygu | golygu cod]Llythyr y Brenin
[golygu | golygu cod]

| Yn Sindarin | Elessar Telcontar: Aragorn Arathornion Edhelharn, aran Gondor ar Hîr i Mbair Annui, anglennatha i Varanduiniant erin dolothen Ethuil, egor ben genediad Drannail erin Gwirith edwen. Ar e aníra ennas suilannad mhellyn în phain: edregol e aníra tírad i Cherdir Perhael (i sennui Panthael estathar aen) Condir i Drann, ar Meril bess dîn; ar Elanor, Meril, Glorfinniel, ar Eirien sellath dîn; ar Iorhael, Gelir, Cordof, ar Baravorn, ionnath dîn. A Pherhael ar am Meril suilad uin aran o Minas Tirith nelchaenen uin Echuir. |
|---|---|
| Yn Gymraeg | Elessar Telcontar: Bydd Aragorn, marchogwr Edhelharn, brenin Gondor ac arglwydd Gwledydd y Gorllewin, yn mynd at Bont Farandwyn ar yr wythfed dydd o'r Gwanwyn, neu, yng nghyfrif y Sir ar yr ail ddydd Ebrill. Ac yno mae eisiau cyfarch ei holl gyfeillion arno : yn enwedig mae eisiau gweld y Tywysog Perhael [Hanercof] arno (a ddylid ei alw yn Banthael [Llawngof]) Maer y Sir, a Meril ei wraig; ac Elanor, Meril, Glorffinniel, ac Eirien ei ferched; ac Iorhael, Gelir, Cordof, a Baraforn, ei feibion. I Berhael ac i Feril, cyfarchiad Brenin Minas Tirith; y 31ain dydd o'r Cynhyrfiad. |
Mae recordiad o'r llythyr ar gael yn Sindarin yma.
Cân y Ellyllon Imladris
[golygu | golygu cod]
| Yn Sindarin | A Elbereth Gilthoniel / silivren penna míriel / o menel aglar elenath! / Na-chaered palan-díriel / o galadhremmin ennorath, / Fanuilos le linnathon / nef aear, sí nef aearon |
|---|---|
| Yn Gymraeg | O Elbereth Gilthonel / wrth serennu fel gemau / disgyn gogoniant y sêr o'r nefoedd! / Wedi edrych ymhell bell / o canol-wledydd coed-wehyddol, / Bytholwen, mi ganaf i chi / ar yr ochr honno y môr, yma ar yr ochr honno y cefnfor |
Record Tolkien o'r gân:
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- Sindarin — yr iaith ardderchog Archifwyd 2006-09-23 yn y Peiriant Wayback, gan Helge K. Fauskanger. (Saesneg)