Bloemfontein
Jump to navigation
Jump to search

Yr hen Raadsaal a cherflun Christiaan de Wet.
Dinas yng nghanolbarth De Affrica yw Bloemfontein. Hi yw prifddinas talaith Vrijstaat, a phrifddinas gyfreithiol De Affrica, safle'r Uchel Lys. Mae'r boblogaeth tua 350,000.
Dywedir fod yr enw'n tarddu o ffynnon (fontein) ar dir ffermwr o'r enw Jan Bloem. Roedd y Voortrekkers eisoes wedi ymsefydlu yn yr ardal pan sefydlwyd y dddinas yn swyddogol gan Henry Douglas Warden yn 1846. Mae tua dwy ran o dair o boblogaeth y ddinas yn groenddu ac yn siarad Sotho Deheuol a Tswana, ac mae treuan o'r boblogaeth yn wynion ac yn siaradwyr Afrikaans yn bennaf.
Pobl enwog o Bloemfontein[golygu | golygu cod y dudalen]
- J. R. R. Tolkien, awdur
- Ryk Neethling, nofiwr
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi y Cheetahs sy'n chwarae yn y Pro14.