Afrikaans
Afrikaans () | |
---|---|
Siaredir yn: | De Affrica a Namibia. |
Parth: | De Affrica (rhanbarth) |
Cyfanswm o siaradwyr: | 6.4 miliwn fel iaith gyntaf 6.75 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Germanaidd |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | De Affrica |
Rheolir gan: | Die Taalkommissie |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | af |
ISO 639-2 | afr |
ISO 639-3 | afr |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Un o ieithoedd De Affrica yw Afrikaans. Mae'n tarddu o'r iaith Iseldireg ond yn sefyll ar wahân iddi fel Iaith Germanaidd yn y teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Datblygodd Afrikaans yn Ne Affrica gyda dyfodiad yr Afrikaniaid (Boeriaid) yn y 18g. Mae'n iaith swyddogol yn y wlad ers 1925. Mae'r iaith yn cynnwys dylanwadau o ieithoedd eraill megis Ffrangeg a Saesneg a hefyd iaith y caethwaesion a'r gweithwyr a ddygwyd neu ddenwyd i weithio i'r Iseldirwyr gwreiddiol e.e. Malayeg o drefedigaethau'r Iseldiroedd yn nwyrain Asia a hefyd y brodorion Khoi a San. Mae'r iaith felly, o'r cychwyn, wedi bod yn iaith amlethnig.
Demograffeg Siaradwyr Afrikaans[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhenir ei siaradwyr mamiaith yn weddol gyfartal rhwng bobl gwyn a phobl o dras cymyst, y Kaapse Kleurling ('Cape Coloured'). Ceir hefyd lleiafrif fechan o bobl ddu sydd yn siarad Afrikaans fel mamiaith.
Yn ôl Cyfrifiad 2011 De Africa mae 7 miliwn o bobl yn siarad Afrikaans fel iaith gyntaf (13% o'r boblogaeth). Mae'n iaith gyntaf 70% (3.5 miliwn person) o'r gymuned Kaapse Kleurling a 60% (2.7 miliwn) o'r gymuned gwyn. Ceir oddeutu 600,000 o bobl Ddu sy'n siarad Afrikaans fel iaith gyntaf hefyd.
Mae 11% o boblogaeth Namibia hefyd yn siarad Afrikaans ac yn lingua franca mewn sawl sefyllfa. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr yn ardal y brifddinas, Windhoek a'r ardaloedd sy'n ffinio a thalaidd Gogledd y Penrhyn yn Ne Affrica.
Amcangyfrifir fod rhwng 15 - 23 miliwn o bobl yn gallu siarad Afrikaans fel iaith gyntaf neu ail neu drydydd iaith.
Mae Afrikaans yn nodweddiadol am fod yn un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd mwyaf analytig. Hi yw'r unig iaith Germanaidd sydd wedi datblygu'n sylweddol ar gyfandir Affrica.
Statws a Brwydr yr Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Tybir i Afrikaans ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiad Jan van Riebeeck wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y dau can blynedd nesa fe aeth yr Iseldireg lafar drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel Kaaps Hollands ac, yn fwy dirmygus, kombuistaal ('iaith y gegin' - nid yn anhebyg i ymadrodd 'iaith a gegin gefn' a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).
Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd y Genootskap van Regte Afrikaners (Afrikaans ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaniaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Afrikaans o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Afrikaans o'r enw Die Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Afrikaans"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.
Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'r Beibl i'r Afrikaans yn 1933.
Y Taalmonument - Cofeb i'r Iaith Afrikaans[golygu | golygu cod y dudalen]
Un o hynodrwydd ei siaradwyr yw iddynt adeiladu'r Taalmonument, Cofeb yr Iaith Afrikaans, yn nhref Paarl yn nhalaith y Penrhyn Orllewinnol. Agorwyd y gofeb yn 1965 i nodi hannercan mlwyddiant gwneud yr iaith yn iaith swyddogol. Mae'r Gofeb yn cynnwys parc ac amgueddfa.
Llenorion[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymlith llenorion yr iaith mae Adam Small a Meville Alexander.
Dosbarthiad Tafodieithoedd Afrikaans[golygu | golygu cod y dudalen]
- Iseldireg
- Afrikaans
- Kaapse Afrikaans
- Oorlams (tafodiaith leiaf o ran nifer, tafodiaith Afrikaans pobl frodorol y wlad, yr Oorlam, is-lwyth o'r Nama)
- Oranjerivier-Afrikaans (Afrikaans yr Afon Oren)
- Oosgrens-Afrikaans (Afrikaans Ffin y Dwyrain - yr Afrikaans a ddatblygodd gyda'r Voortrekkers a ymfudodd allan o'r Penrhyn tuag at dwyarain perfeddwlad De Affrica yn hanner gyntaf yr 19g)
- Afrikaans Namibia' - mae Afrikaans yn un o brif ieithoedd Namibia a bu'n iaith yno ers canrifoedd fel mam iaith ac fel lingua franca [1] Yn 2010-11 fel ymgais i ail-ddiffinio'r dafodiaeth fel creuwyd sioe lwyfan gerddorol hop-opera o'r enw Afrikaaps gan artistiaid Afrikaans amrywiol yn wyn ac yn arbennig o'r gymuned Kaapse Kleurlinge. Trosglwyddwyd hanes y dafodiaith (a'i iaith Afrikaans) drwy gyfrwng jazz, hip-hop, caneuon traddodiadol goema a reggae gan adrodd hanes o'r dyddiau cynnar a hanes siaradwyr cynharaf yr iaith newydd, Autshumaoa ("Harry the Strandloper") i'r presenol.[2]
- Afrikaans