Afrikaans

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Affricaneg)
Jump to navigation Jump to search
Afrikaans ()
Siaredir yn: De Affrica a Namibia.
Parth: De Affrica (rhanbarth)
Cyfanswm o siaradwyr: 6.4 miliwn fel iaith gyntaf
6.75 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith
Safle yn ôl nifer siaradwyr:
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

 Germanaidd
  Orllewinol
   Isel Fraconin
     Afrikaans

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: De Affrica
Rheolir gan: Die Taalkommissie
Codau iaith
ISO 639-1 af
ISO 639-2 afr
ISO 639-3 afr
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Un o ieithoedd De Affrica yw Afrikaans. Mae'n tarddu o'r iaith Iseldireg ond yn sefyll ar wahân iddi fel Iaith Germanaidd yn y teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Datblygodd Afrikaans yn Ne Affrica gyda dyfodiad yr Afrikaniaid (Boeriaid) yn y 18g. Mae'n iaith swyddogol yn y wlad ers 1925. Mae'r iaith yn cynnwys dylanwadau o ieithoedd eraill megis Ffrangeg a Saesneg a hefyd iaith y caethwaesion a'r gweithwyr a ddygwyd neu ddenwyd i weithio i'r Iseldirwyr gwreiddiol e.e. Malayeg o drefedigaethau'r Iseldiroedd yn nwyrain Asia a hefyd y brodorion Khoi a San. Mae'r iaith felly, o'r cychwyn, wedi bod yn iaith amlethnig.

Demograffeg Siaradwyr Afrikaans[golygu | golygu cod y dudalen]

Plant 'Kaapse Kleurling', o'r Wes Kaap, dydy mwyafrif siaradwyr Afrikaans iaith gyntaf ddim yn bobl croenwyn

Rhenir ei siaradwyr mamiaith yn weddol gyfartal rhwng bobl gwyn a phobl o dras cymyst, y 'Cape Coloured'. Ceir hefyd lleiafrif fechan o bobl ddu sydd yn siarad Afrikaans fel mamiaith.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 De Africa mae 7 miliwn o bobl yn siarad Afrikaans fel iaith gyntaf (13% o'r boblogaeth). Mae'n iaith gyntaf 70% (3.5 miliwn person) o'r gymuned (Kaapse Kleurling) 'Lliw' a 60% (2.7 miliwn) o'r gymuned gwyn. Ceir oddeutu 600,000 o bobl Ddu sy'n siarad Afrikaans fel iaith gyntaf hefyd.

Mae 11% o boblogaeth Namibia hefyd yn siarad Afrikaans ac yn lingua franca mewn sawl sefyllfa. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr yn ardal y brifddinas, Windhoek a'r ardaloedd sy'n ffinio a thalaidd Gogledd y Penrhyn yn Ne Affrica.

Amcangyfrifir fod rhwng 15 - 23 miliwn o bobl yn gallu siarad Afrikaans fel iaith gyntaf neu ail neu drydydd iaith.

Mae Afrikaans yn nodweddiadol am fod yn un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd mwyaf analytig. Hi yw'r unig iaith Germanaidd sydd wedi datblygu'n sylweddol ar gyfandir Affrica.

Statws a Brwydr yr Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Tybir i Afrikaans ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiad Jan van Riebeeck wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y dau can blynedd nesa fe aeth yr Iseldireg lafar drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel Kaaps Hollands ac, yn fwy dirmygus, kombuistaal ('iaith y gegin' - nid yn anhebyg i ymadrodd 'iaith a gegin gefn' a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).

Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd y Genootskap van Regte Afrikaners (Afrikaans ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaniaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Afrikaans o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Afrikaans o'r enw Die Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Afrikaans"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.

Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'r Beibl i'r Afrikaans yn 1933.

Y Taalmonument - Cofeb i'r Iaith Afrikaans[golygu | golygu cod y dudalen]

Obelisg y gofeb iaith, Taalmonument, Paarl

Un o hynodrwydd ei siaradwyr yw iddynt adeiladu'r Taalmonument, Cofeb yr Iaith Afrikaans, yn nhref Paarl yn nhalaith y Penrhyn Orllewinnol. Agorwyd y gofeb yn 1965 i nodi hannercan mlwyddiant gwneud yr iaith yn iaith swyddogol. Mae'r Gofeb yn cynnwys parc ac amgueddfa.

Llenorion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymlith llenorion yr iaith mae Adam Small.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wikipedia
Argraffiad Afrikaans Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of South Africa.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Afrikaans
yn Wiciadur.