Cofeb yr Iaith Afrikaans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Taalmonument, Cofeb i'r iaith Afrikaans, Paarl, De Affrica
Plac yn dangos dau ddyfyniad gan feirdd Afrikaans
Y llwybr at y Gofeb

Lleolir Cofeb yr Iaith Afrikaans (Afrikaans: Afrikaanse Taalmonument) ar fryn uwchben tref Paarl yn nhalaith y Penrhyn Gorllewinnol, De Affrica. Agorwyd y gofeb yn swyddogol ar 10 Hydref 1975,[1] ac mae'n cydnabod hannercanmlwyddiant dyfarnu Afrikaans yn iaith swyddogol yn Ne Affrica yn hytrach nag Iseldireg. Fe'i codwyd hefyd i ddathlu canmlwyddiant sefydlu'r Genootskap van Regte Afrikaners (Cymdeithas y Gwir Afrikaaners) yn Paarl, y mudiad a grewyd i gryfhau hunaniaeth a balchder yr Afrikaaniaid yn yr iaith 'newydd'.[2]

Strwythur a Symboliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gofeb yn cynnwys cyfres o siapau conigol o natur amgrwm a cheugrwm, sy'n cynrychioli dylanwadau y gwahanol ieithoedd a diwylliannau ar yr Afrikaans yn ogystal â datblygiadau gwleidyddol De Affrica:

  • Y Gorllewin Clir - treftadaeth Ewrop ar yr iaith sy'n
  • Affrica Hudolus - dylanwad Affricanaidd ar yr iaith
  • Pontydd - rhwng Ewrop ac Affrica
  • Afrikaans - yr iaith ei hun
  • Gweriniaeth De Affrica - a gyhoeddwyd yn 1961
  • Yr Iaith Malay a'i diwylliant
  • Twf yr iaith Afrikaans - dyma'r siap uchaf sy'n esgyn 57m i'r awyr.

(ceir hefyd stwdiwm agored wrth droed y strwythur lle cynhelir cyngherddau a digwyddiadau)

Ysgrifau'r Plac[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir dwy arysgrif ar y plac mawr gan feirdd Afrikaans o bwys:

  • Afrikaans is die taal wat vir Wes-Europa en Afrika verbind... Dit vorm 'n brug tussen die groot helder Weste en die magiese Afrika... En wat daar groots aan hulle vereniging kan ontspruit – dit is miskien wat vir Afrikaans voorlê om te ontdek. Maar wat ons nooit moet vergeet nie, is dat hierdie verandering van land en landskap as't ware aan die nuwe wordende taal geslyp, geknee, gebrei het... En so het Afrikaans in staat geword om hierdie nuwe land uit te sê... Ons taak lê in die gebruik wat ons maak en sal maak van hierdie glansende werktuig... -- N.P. van Wyk Louw
"Afrikaans yw'r iaith sy'n cysylltu gorllewin Ewrop ac Affrica ... Mae'n creu pont rhwng y Gorllewin mawr gloyw ac Affrica hudolus ... A daw pethau mawrion o'r uniad; dyna, efallai, sy'n gorwedd gerbron Afrikaans i'w ddarganfod. Ond yr hyn na ddylem fyth anghofio yw y bu i'r newid gwlad a thirwedd hogi, tylino a gwneu yr iaith newydd-anedig hon... Ac felly, daeth Afrikaans i lefaru o'r tir newydd hwn... Gorwedd ein her yn y defnydd rydym am wneud o'r cerbyd llachar hwn ..."
  • As ons nou hier in die saal af 'n ry pale sou plant, tien pale, om die laaste tien jaar voor te stel, en aan elke paal 'n merk sou maak op 'n hoogte van die vloer af ooreenkomende met die betreklike skryfgebruik van Afrikaans in die respektiewe jaartal, en 'n streep deur die merke trek van die eerste af hier naby die vloer tot by die laaste daar anderkant teen die solder, dan sou die streep 'n snelstygende boog beskryf, nie net vinnig opgaande nie, maar opgaande na 'n vinnig vermeerderende rede. Laat ons nou in ons verbeelding die boog verleng vir die tien komende jare van nou af. Sien u menere waar die punt sal wees, daar buite in die bloue lug hoog oor Bloemfontein, in die jaar 1924. -- C.J. Langenhoven
"Dychmygwch ein bod ni heddiw yn plannu rhes o bolion ar hyd y neuadd hon; deg polyn i gynrychioli'r deng mlynedd ddiwethaf, ac ar bob polyn ysgathru marc yn nodi'r uchder o'r llawr sy'n cyfateb i'r defnydd ysgrifenedig o Afrikaans yn y flwyddyn arbennig honno. A petaem ni'n tynnu llinell, o'r polyn cyntaf yma sy'n agos i'r llawr i'r polyn diwethaf draw yno ger y nenfwd, yna, byddai'r llinell yn datgelu bwa'n esgyn yn serth, nid yn unig yn codi yn sydyn, ond yn esgyn yn fwy fwy serth. Gadewch i ni nawr, yn ein dychymyg, estyn y bwa ar gyfer y deng mlynedd o heddiw. Gwelwch chi gyfeillion, lle gorwedd y pwynt, yno, y tu allan yn yr awyr las uwchben Bloemfontein yn y flwyddyn 1924."

Cofnodir y dywediad "DIT IS ONS ERNS" (yn fras, "rydym yn ddidwyll [am hyn], neu "dyma'n didwylledd") ar hyd y llwybr sy'n arwain at y gofeb.

Cofeb Burgersdorp[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb yr iaith Iseldireg yn Burgersdorp

Codwyd y gofeb gyntaf i ddathlu'r iaith Afrikaans yn Burgersdorp yn 1893, er, mae'n cyfeiriad at yr Hollandse taal yr iaith Iseldireg. Mae'n darlunio dynes yn pwyntio gyda'i bys at lyfr yn ei llaw.

Y Taalmonument Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir ymdrech fwriadol i ehangu apêl y gofeb i ymwelwyr ac ysgolion. Lleolir caffi o fewn y Taalmuseum a cheir teithiau tywys a digwyddiadau addysgol hefyd gwahanol arddangosfeydd a chystadlaethau ysgrifennu. Ceir hefyd rediad neu ras hwyl dros yr iaith Afrikaans, y 'Afrikaans op 'n drafstap' (Afrikaans wrth loncian) a gynhelir yn flynyddol lle y bydd pobl yn rhedeg neu gerdded 10 km neu 5 km. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Taalmonument. Yn hyn o beth mae'r lonciad yn ymdebygu, er yn ddi-gyswllt â 'rasus iaith' a gynhelir yng ngorllewin Ewrop megis, Ras yr Iaith yng Nghymru a'r Korrika yng Ngwlad y Basg.

Mae'r Taalmonument hefyd yn cydweithio â chymunedau ieithyddol eraill De Affrica.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Speech by the Minister of Art and Culture, N Botha, at the 30th anniversary festival of the Afrikaans Language Monument" (yn Afrikaans). South African Department of Arts and Culture. 2005-10-10. http://www.info.gov.za/speeches/2005/05111709451003.htm. Adalwyd 28 November 2009.
  2. Charles S. B. Galasko. The Afrikaans Language Monument, Paarl. Spine 1 November 2008 - Volume 33 - Issue 23.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: