Ras yr Iaith

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ras hwyl gyfnewid er lles y Gymraeg yw Ras yr Iaith. Seiliwyd hi ar rasys iaith eraill fel ar Redadeg (Llydaw), Korrika (Gwlad y Basg) a'r Rith (Iwerddon). Trefnir y Ras gan wirfoddolwyr lleol o dan arweiniad Cered, Menter Iaith Ceredigion. Un o amcanion y ras yw codi arian, ac mae unrhyw elw a wneir yn cael ei fuddsoddi ar ffurf grantiau i hyrwyddo'r Gymraeg yn ardal y Ras.

Trefniant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Ras yr Iaith am y tro cyntaf yn 2014. Yn wahanol i rasys y gwledydd eraill, dim ond yn y trefi y bydd Ras yr Iaith yn rhedeg. Yn wahanol hefyd i rasys Gwlad y Basg a Llydaw, nid yw'n rhedeg yn ddi-dor, ddydd a nos. Gweinyddir Ras yr Iaith gan gwmni Rhedadeg Cyf, a sefydlwyd gan Siôn Jobbins. Mae grwpiau, busnesau, cynghorau cymuned, ysgolion neu unigolion yn talu £50 i noddi a rhedeg cilomedr. Codir arian hefyd gan noddwyr masnachol.

Ras yr Iaith 2014 yn mynd drwy Gastellnewydd Emlyn.

Ras 2014[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Ras 2014 yn Senedd-dy Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth, gan orffen yn Aberteifi.[1] Noddwyd baton Ras 2014 gan fudiad Mentrau Iaith Cymru a'i chreu gan Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Bu Dewi Pws yn arwain gan roi annogaeth a chyngor i'r rhedwyr o Fan y Ras.

Noddwyd cilomedrau'r Ras gan amrywiaeth eang o noddwyr yn talu £50, gan gynnwys busnesau, ysgolion, capeli, clybiau a chyrff cyhoeddus. O'r arian nawdd a godwyd gan noddwyr a rhedwyr y Ras, llwyddwyd i ddosbarthu gwerth £4,000 o grantiau i hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardaloedd lle rhedwyd y Ras.

Ras 2016[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd y Ras dros dri diwrnod gyda chydweithrediad agos sawl un o Fentrau Iaith Cymru, gyda Siôn Jobbins yn cydlynu. Rhedwyd drwy ganol trefi ond nid rhyngddynt. Cafwyd cefnogaeth Dewi Pws unwaith eto, a bu sawl person amlwg yn rhedeg ac yn cefnogi gan gynnwys y cyflwynydd teledu a'r dyfarnwr, Owain Gwynedd, a redodd y diwrnod cyntaf i gyd, a'r cyflwynydd teledu a'r rhedwraig brofiadol Angharad Mair a fu'n rhedeg yng Nghaerfyrddin.

Bu cyngherddau fin nos yng nghastell Aberteifi i ddathlu'r Ras (nos Iau 7 Gorffennaf) ac yn Nhŷ Newton, Llandeilo (nos Wener 8 Gorffennaf).

Diwrnod Un - Dydd Mercher 6 Gorffennaf: Bangor - Bethesda - Llanrwst - Blaenau Ffestiniog - y Bala - Dolgellau - Machynlleth. (nodwyd Betws y Coed ar y llenyddiaeth, ond ni redwyd drwy'r pentref am resymau diogelwch).

Diwrnod Dau - Dydd Iau 7 Gorffennaf: Aberystwyth - Tregaron - Llanbedr Pont Steffan - Aberaeron - Ceinewydd - Llandysul - Castellnewydd Emlyn - Aberteifi.

Diwrnod Tri - Dydd Gwener 8 Gorffennaf: Crymych - Arberth - Dinbych y Pysgod - San Clêr - Caerfyrddin - Rhydaman - Brynaman - Llanymddyfri - Llandeilo.

Baner Stryd Ras yr Iaith 2016 we.png

Ras 2018[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Ras 2018 unwaith eto dros dair diwrnod ond gan estyn tiriogaeth y Ras i'r dwyrain ac i Fôn am y tro cyntaf. Trefnwyd y Ras gan Fentrau Iaith Cymru mewn cydweithrediad gyda chwmni Rhedadeg Cyf.

Bu Dewi Pws Morris yn gyfrifol am arwain y Ras ar Ddiwrnod 1 (dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018) gan godi hwyl a chadw trefn o gefn fan y Ras fel y gwnaeth yn y ddau Ras flaenorol. Mewn trefi eraill cafwyd enwogion eraill neu Prif Weithredwr Mentrau Iaith Cymru, Heledd ap Gwynfor. Gweler enwau'r enwogion wrth ymyl y trefi lle buont yn arwain.

Diwrnod Un - dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018: Wrecsam - Porthaethwy gan gynnwys redeg dros Bont y Borth o dafarn yr Antelope yn sir Gaernarfon - Bangor - Llanrwst - Machynlleth - Aberystwyth.

Diwrnod Dau - dydd Iau 5 Gorffennaf 2018: Hwlffordd - Caerfyrddin - Rhydaman - Llanelli, Tudur Phillips.

Diwrnod Tri - dydd Gwener 6 Gorffennaf 2018: Ystradgynlais Martin Geraint, - Pontardawe - Clydach - Porthcawl, Leon Welsby - Caerffili.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]