Angharad Mair
Angharad Mair | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
31 Mawrth 1961 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
rhedwr marathon, newyddiadurwr ![]() |
Cyflogwr | |
Chwaraeon |
Cyflwynydd teledu Cymreig, colofnydd, cyn-athletwraig ac un o gyfarwyddwyr Tinopolis ydy Angharad Mair (ganed 31 Mawrth 1961)[1].
Ei bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Angharad yng Nghaerfyrddin.
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd ei gyrfa gyda'r BBC yn cyflwyno'r rhaglen deledu i blant, Bilidowcar, cyn iddi ymuno â'r tîm newyddion[2]. Yn 1990 dechreuodd weithio i gwmni teledu Agenda, yn cyflwyno'r rhaglen deledu cylchgrawn Heno ar S4C. Bu hefyd yn cyflwyno ar Prynhawn Da, Wedi 3 a Wedi 7. Hi yw golygydd cyfres Heno.
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yn 30 mlwydd oed cyn iddi ddechrau rhedeg ac yn 1997, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn Athens. Rhoddodd y gorau i redeg ers ei phedwardegau.[1] Mae'n briod â Jonathan Cray, sy'n gweithio fel dyn camera i Tinopolis ac mae dwy ferch ganddynt. Bu'r teulu yn byw am rai blynyddoedd yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg.[3] Yn 2020 symudodd i'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.[4]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Cyfweliad Angharad Mair. Dewi Llwyd ar fore Sul. BBC. Adalwyd ar 26 Chwefror 2014.
- ↑ Yr Orsedd yn cyhoeddi urddau'r de ddwyrain. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 26 Chwefror 2014.
- ↑ Angharad Mair. aren.co.uk.
- ↑ Adre: Angharad Mair. S4C (28 Rhagfyr 2020).